Tîm Heddlu Gwent i Fynd i'r Afael â Masnachu Dynol

26ain Chwefror 2018

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, wedi croesawu creu tîm penodol gan Heddlu Gwent i fynd i'r afael a masnachu dynol.

Mae Heddlu Gwent wedi cyhoeddi ei fod yn creu tîm pwrpasol i ymdrin â Masnachu Pobl.
Bydd y tîm o bump yn cynnwys Ditectif Ringyll, Ditectif Gwnstabl a Chwnstabl Heddlu parhaol, gyda chefnogaeth gan ymchwilydd a dadansoddwr.

Bydd eu swyddogaethau’n cynnwys llunio darlun manwl o faterion Masnachu Pobl ledled ardal Heddlu Gwent, i godi ymwybyddiaeth a darparu hyfforddiant i gydweithwyr yn yr Heddlu, a meithrin perthnasau dyfnach gydag asiantaethau partner.

Daw’r penderfyniad hwn wrth i’r llu geisio mynd i’r afael â’r hyn sy’n broblem gynyddol.
Yn ôl y ffigyrau diweddaraf gan yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, bu cynnydd o 75% yn nifer y dioddefwyr posibl o fasnachu pobl a riportiwyd yng Nghymru rhwng 2014 a 2016.

Mae Masnachu Pobl yn drosedd gymhleth sydd fel arfer yn digwydd mewn tri cham.

Y cam cyntaf yw recriwtio, cludo a derbyn dioddefwyr.

Yr ail gam yw’r broses lle mae’r dioddefwr yn cael ei ‘ddal’ neu’n dod dan ddyled i’r troseddwr - a all ddigwydd trwy amryw o ddulliau fel gorfodaeth neu dwyll.

Y cam olaf yw cam-fanteisio ar ddioddefwyr er budd y troseddwr trwy nifer o ddulliau a allai gynnwys cam-fanteisio arnynt yn rhywiol neu lafur gorfodol.

Dywedodd Julian Williams, Prif Gwnstabl Heddlu Gwent ac arweinydd Cymru gyfan ar Fasnachu Pobl, "Mae masnachu pobl a chaethwasiaeth fodern yn droseddau na ddylai fod yn digwydd yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae’n dal i fod yn drosedd gymharol anghyffredin yng Nghymru ond mae’n dod yn fwy cyffredin. Mae hefyd yn drosedd sydd mewn categori cymhleth iawn, gyda dimensiwn rhyngwladol yn aml. Mae angen i ni fod yn fwy gwyliadwrus yn ein holl gymunedau ac fel gwasanaeth Heddlu mae angen i ni allu ymateb.”

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert yn cynrychioli pob un o’r pedwar Comisiynydd Heddlu a Throseddu yng Nghymru ar Grŵp Arweinyddiaeth Llywodraeth Cymru sy’n canolbwyntio ar ffyrdd i fynd i’r afael â Chaethwasiaeth Fodern.

Wrth bwysleisio pwysigrwydd y Tîm Masnachu Pobl newydd, dywedodd Mr Cuthbert: “Ni ddylai fod yn dderbyniol bod masnachwyr creulon yn cam-fanteisio ar y bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau. Dyma pam mae mynd i’r afael â masnachu pobl a chaethwasiaeth fodern yn faes y mae fy swyddfa i a Heddlu Gwent yn benderfynol o’i yrru ymlaen yn lleol ac yn genedlaethol gyda’n partneriaid.

Mae lansio’r tîm newydd hwn yn cadarnhau ein hymrwymiad a’n penderfyniad i ddangos y ffordd yn y maes hwn trwy ddarparu sylfaen cadarn ar gyfer atal y troseddau hyn rhag digwydd ar draws ein cymunedau yn y lle cyntaf.

Ychwanegodd Mr Cuthbert: “Rydym yn sylweddoli na all unrhyw sefydliad unigol fynd i’r afael â’r broblem hon a’i dileu yn effeithiol ar ei ben ei hun. Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i sicrhau nad yw pobl yn cael eu hecsbloetio. Dim ond trwy gydweithredu’n effeithiol gyda phartneriaid ar draws pob sector y gallwn ddod o hyd i atebion er mwyn dileu masnachu pobl a chaethwasiaeth fodern.”

"Mae mynd i’r afael â’r broblem yn cael ei gymhlethu mwy gan rwystrau i ddatgeliad, lle mae dioddefwyr naill ai’n anymwybodol o’r cymorth sydd ar gael neu’n rhy ofnus i riportio eu pryderon. Gall hyn fod oherwydd eu hynysiad, statws dinasyddiaeth neu oherwydd eu bod yn ‘beio’ eu hunain am eu sefyllfa.
Dywedodd Stephen Chapman, Cydgysylltydd Atal Caethwasiaeth Llywodraeth Cymru, “Rwy’n croesawu’r ffaith bod Heddlu Gwent yn cyflwyno tîm pwrpasol i fynd i’r afael â’r categori hwn o drosedd sydd ar gynnydd. Trwy gynyddu adnoddau a chydweithrediad, rydym mewn sefyllfa well i wynebu’r masnachwyr pobl a hefyd i annog dioddefwyr posibl i ddod ymlaen.”

Os ydych chi wedi bod yn ddioddefwr masnachu pobl neu gaethwasiaeth fodern, cysylltwch â Heddlu Gwent ar 101. Gellir rhoi gwybodaeth i Crimestoppers hefyd ar 0800 555 111 neu’r Llinell Gymorth Caethwasiaeth Fodern ar 08000 121 700.