Swyddogion Cymorth Cymunedol newydd yn ymuno â Heddlu Gwent

12fed Mawrth 2021

Mae Heddlu Gwent wedi croesawu 36 Swyddog Cymorth Cymunedol (SCC) newydd i'r llu.

Bydd y swyddogion newydd yn ymuno â dros 120 o SCC sy'n gweithredu ledled Gwent ar hyn o bryd.

Mae swyddogion cymorth cymunedol yn cyflawni amrywiaeth o swyddogaethau, gan gynnwys cefnogi timau plismona cymdogaeth, mynd ar batrôl yn y gymuned a rhoi cyngor ar atal trosedd a diogelwch personol.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Jeff Cuthbert: "Swyddogion Cymorth Cymunedol yw'r cysylltiad rhwng yr heddlu a'n cymunedau, yn helpu i feithrin ymddiriedaeth a datblygu cymunedau mwy cydlynus ledled Gwent. Nid yw'n swydd hawdd ac mae SCC yn aml yn rhoi cymorth i rai o'r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas.

"Mae dechrau gyrfa newydd yn y gwasanaethau brys, yn gweithio ar y rheng flaen yn ystod pandemig, yn gofyn am ddewrder ac ymroddiad. Mae'r swyddogion newydd hyn wedi ymroi i gefnogi a gwasanaethu eu cymunedau a byddant yn gaffaeliad i Heddlu Gwent ar adeg dyngedfennol. Dymunaf bob hwyl iddynt gyda'u gyrfa newydd."