Sesiynau pêl-droed nos Sadwrn yn dod â chymunedau at ei gilydd

1af Gorffennaf 2022

Mae sesiwn hyfforddiant pêl-droed nos Sadwrn am ddim i blant a phobl ifanc yn dod â chymunedau at ei gilydd yng Nghasnewydd. 

Mae rhyw 100 o blant a phobl ifanc, rhwng chwech a 16 oed, yn cymryd rhan yn rheolaidd yn y sesiynau yng Nghanolfan Pêl-droed Dan Do Casnewydd. Cynhelir sesiwn pwrpasol ar gyfer merched hefyd ar nosweithiau Gwener.

Mae'r sesiynau hyfforddiant yn cael eu cynnal gan Gymdeithas Cymuned Yemenïaidd Casnewydd (NYCA) ac maent yn creu cyfle i bobl ifanc fod yn egnïol a dysgu sgiliau hanfodol fel disgyblaeth, gwaith tîm ac arweinyddiaeth ar yr un pryd. Maent hefyd yn helpu i adeiladu pontydd rhwng gwahanol grwpiau yn y gymuned.

Meddai Reggie Al-Haddi, cadeirydd NYCA: “Mae ein sesiynau pêl-droed ar agor i bob plentyn a pherson ifanc ym Mhilgwenlli a'r ardaloedd o gwmpas. Mae gennym ni blant o sawl hil a chrefydd, i gyd yn ymuno â'i gilydd, yn cyd-dynnu ac yn mwynhau eu hunain.

“Mae rhai heriau yn y cymunedau hyn ond mae llawer i'w ddathlu hefyd. Rydym yn cynnig rhywle i'r bobl ifanc hyn fynd i sianelu eu hegni, gan eu cadw nhw oddi ar y strydoedd ar nos Wener a nos Sadwrn, ac ar yr un pryd gallwn weithio gyda nhw i ddatblygu hyder, sgiliau a dysgu.”

Mae NYCA wedi derbyn cyllid gan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd i gynnal y sesiynau.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert: “Os ydym ni am fynd i'r afael â phroblemau fel ymddygiad gwrthgymdeithasol, trosedd ac anoddefgarwch, rhaid i ni ddechrau mor gynnar â phosibl. Mae'r tîm yng Nghymdeithas Cymuned Yemenïaidd Casnewydd wedi creu amgylchedd cynhwysol lle mae plant a phobl ifanc yn teimlo'n ddiogel ac yn cael cefnogaeth gan oedolion sy'n dangos esiampl gadarnhaol iddynt.

“Rwyf yn edrych ymlaen at weld sut bydd y plant yn datblygu a thyfu yn ystod y blynyddoedd i ddod."