Prosiectau Gwent yn cael eu cydnabod mewn seremoni wobrwyo genedlaethol

18fed Tachwedd 2019

Llongyfarchiadau i Michaela Rogers, rheolwr Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid Blaenau Gwent a Chaerffili; a'r Tîm Llwybr Braenaru i Fenywod, a gyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Cymuned The Howard League yr wythnos hon. Mae'r ddau brosiect yn cael cymorth gan Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent.

Derbyniodd Michaela wobr cydnabyddiaeth arbennig am ei gwaith fel hyrwyddwr cyfiawnder troseddol.

Mae gwobrau The Howard League yn cydnabod pobl a phrosiectau sy'n cadw plant a phobl ifanc allan o'r system cyfiawnder troseddol ac yn lleihau eu risg o aildroseddu.