Prosiect yn bwydo plant a'u cadw nhw'n heini yn ystod y gwyliau

30ain Mai 2019

Cafodd dros 300 o blant ledled Casnewydd fynediad at brydau bwyd iach, chwaraeon a gweithgareddau eraill yn ystod gwyliau hanner tymor.

Mae Fit and Fed yn ddull cydweithredol gan bartneriaid i roi brecwast, cinio a byrbrydau i bant, a'u galluogi nhw i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau eraill yn ystod y gwyliau.

Mae Casnewydd Fyw a Thîm Cymunedau Cryf Cyngor Dinas Casnewydd yn rhedeg naw sesiwn ledled Casnewydd yn ystod y gwyliau ysgol, sy'n cael eu cynnal gan sefydliadau yn y gymuned leol.

Mae Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent yn cyfrannu cyllid at y prosiect trwy'r rhaglen Dyfodol Cadarnhaol, ac mae Cartrefi Dinas Casnewydd, Cartrefi Melin a phartneriaid eraill yn cyfrannu cyllid hefyd.

Dywedodd Patricia Moore, gwirfoddolwr yng Nghanolfan Hope yn Somerton, sy'n cynnal un o'r cynlluniau: “Rwy'n credu bod y prosiect hwn yn anhygoel, yn arbennig pan mae rhieni'n gweithio. Mae eu plant yn gallu dod yma, bod yn ddiogel, cael brecwast, cinio a digon o adloniant. Rydym yn edrych ar eu holau a gobeithio eu bod nhw'n cael hwyl."

Dywedodd Leigh Williams, Uwch-swyddog Chwaraeon a Gweithgareddau Corfforol Casnewydd Fyw: "Mae Fit and Fed wedi bod yn cael ei ddarparu trwy bartneriaeth yng Nghasnewydd ers dwy flynedd ac ar y cyd rydym yn hoffi meddwl ein bod yn gwneud gwahaniaeth i'r bobl ifanc a'u teuluoedd sy'n manteisio ar y cyfle yn eu cymunedau lleol.

“Mae cydweithredu'n hollbwysig ac rydym yn edrych ymlaen at gyfarfod â'r rhanddeiliaid ar ôl yr wythnos hon a pharatoi ar gyfer haf prysur yn darparu Fit and Fed. Os hoffai unrhyw un helpu a bod yn rhan o'r cynllun, rhowch wybod i mi gan y byddai'n wych cael mwy o bobl."

Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Jeff Cuthbert: “Mae Fit and Fed yn brosiect ardderchog sy'n rhoi cyfle i blant gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau cadarnhaol eraill yn ystod gwyliau'r haf.

“Mae'n helpu i dynnu eu sylw oddi wrth drosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ac mae'n helpu rhieni sy'n cael anhawster gyda chostau bwyd ychwanegol yn ystod y gwyliau hefyd."