Pobl ifanc yn rhoi’r sbotolau ar arweinwyr Gwent

29ain Chwefror 2024

Mae plant a phobl ifanc wedi gofyn eu cwestiynau i arweinwyr sector cyhoeddus yn nigwyddiad Hawl i Holi Ieuenctid Gwent blynyddol Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd.

Mae Hawl i Holi Ieuenctid Gwent yn cael ei gynnal gan aelodau Fforwm Ieuenctid Rhanbarthol Gwent ac mae'n rhoi cyfle i bobl ifanc ofyn cwestiynau'n uniongyrchol i bobl sy'n gwneud penderfyniadau.

Roedd y panel yn cynnwys fy Nirprwy Gomisiynydd  Heddlu a Throsedd, Eleri Thomas; Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gwent, Mark Hobrough; Johanna Robinson, Cynghorydd Cenedlaethol ar Drais yn erbyn Menywod; a Carol Andrews, Hyrwyddwr Ieuenctid Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Cymerodd dros 70 o bobl ifanc ran ac roedd y themâu ar gyfer y noson yn cynnwys diogelwch menywod a merched, cymorth iechyd meddwl i blant a phobl ifanc, a phryderon am fepio.

Sefydlwyd Hawl i Holi Ieuenctid gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd Jeff Cuthbert yn 2019.

Dywedodd: “Mae comisiynwyr yr heddlu a throsedd yn cael eu hethol i siarad ar ran y bobl a dyma un o'r ffyrdd rydym yn gweithio i sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed gan y bobl sy'n gwneud penderfyniadau yng Ngwent.

“Roedd hwn yn ddigwyddiad penigamp arall, a rhaid i mi ddiolch i'r bobl ifanc a oedd ynghlwm ag ef am eu gwaith caled, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili am gynnal y digwyddiad, a phawb a gymrodd ran ar y noson am helpu i'w wneud yn ddigwyddiad mor llwyddiannus.”