Pobl ifanc sy'n gadael y carchar i gael cynnig pecyn cymorth gyda'r nod o atal digartrefedd ac aildroseddu
Bydd yr elusen digartrefedd, Llamau, yn arwain prosiect newydd arloesol sy'n cynorthwyo pobl ifanc yng Nghymru sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, gael problemau wrth ailsefydlu i'r gymuned ac aildroseddu ar ôl gadael y carchar. Bydd y prosiect newydd yn cael ei lansio yn unol â thystiolaeth sy'n tynnu sylw at y modd y mae bod mewn llety amhriodol a pheidio â chael cefnogaeth briodol ar ôl bod yn y carchar yn cynyddu'r siawns y bydd person ifanc yn ymddieithrio o wasanaethau cymorth ac yn cynyddu'r tebygolrwydd o aildroseddu.
Bydd y prosiect, sydd wedi'i ariannu gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, yn rhedeg fel partneriaeth rhwng Llamau, Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru, Heddlu Gwent a Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Cymru Ddiogelach a Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi, a bydd yn targedu pobl ifanc 18-25 oed yng Nghaerdydd a Chasnewydd.
Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithredol ac Arweinydd Prosiect Llamau, Johanna Robinson:
"Nid yw'n anghyffredin i ni weld pobl ifanc sy'n gadael y carchar yn teimlo eu bod ar goll yn llwyr ac nad oes ganddyn nhw'r cymorth a'r llety iawn a fydd yn caniatáu iddyn nhw symud ymlaen a dod o hyd i'w lle yn eu cymuned. Gan weithio gyda'n partneriaid, bydd pobl ifanc yn cael cynnig llety priodol, Cyfryngu Teuluol a chyfres o gymorth wedi’i hysbysu gan seicoleg."
Gadawodd Christopher* y carchar ychydig wythnosau'n ôl ar ôl dedfryd o ddau fis yn y carchar. Mae'n 21 oed ac ar hyn o bryd mae’n byw mewn llety gwely a brecwast y gwnaeth ei deulu ei helpu i ddod o hyd iddo wrth adael y carchar.
"Roeddwn yn nerfus iawn yn gadael y carchar, doeddwn i ddim yn gwybod beth i'w ddisgwyl ac roedd yn effeithio ar fy iechyd meddwl. Doedd gen i ddim cymorth, dim arian ac unman i fyw. Gwnaeth fy mam ddod o hyd i le i mi mewn llety gwely a brecwast ar ôl mynd at wasanaethau cymorth digartrefedd ei hun. Nid oes gan y llety gwely a brecwast gyfleusterau coginio ac nid yw’n gweini unrhyw fwyd ac nid oes hawl gan fy nheulu i ymweld â mi oherwydd Covid."
Agwedd unigryw ar y dull tair elfen newydd hwn o gynorthwyo pobl ifanc sy'n gadael y carchar yw nad yw llety'n amodol wrth ymgysylltu â'r cymorth sydd ar gael, sy'n golygu na fydd person ifanc mewn perygl o fod yn ddigartref os nad yw'n teimlo'n barod i ymgysylltu â'r cymorth sydd ar gael.
"Mae bod â chartref yn hawl dynol ac ni ddylid byth ei ystyried yn amodol ar ymgysylltu â chymorth. Byddwn yn gweithio gyda phob person ifanc i nodi cyfleoedd i ddarparu cymorth a chreu cynllun cymorth wedi'i dargedu sy'n benodol ar gyfer eu hamgylchiadau a'u hanghenion unigol; gyda'r bwriad o'u helpu i ailadeiladu perthnasoedd teuluol a dechrau adeiladu sgiliau bywyd hanfodol fel y gallant symud ymlaen mewn bywyd."
Oherwydd ei amodau mechnïaeth, nid yw Christopher wedi gallu parhau i ymgysylltu â'r cyfleoedd addysg a ddechreuodd tra’r oedd yn y carchar. Gan weithio gyda gwasanaethau allweddol gan gynnwys y gwasanaeth prawf, gwasanaethau camddefnyddio sylweddau a darparwyr addysg, hyfforddiant a chyflogaeth, bydd y prosiect yn canolbwyntio ar adeiladu llwybr cadarnhaol i berson ifanc ymgysylltu ag ef pan fydd yn gadael y carchar. Effaith hyn bydd gwell canlyniadau iddyn nhw fel unigolion ond hefyd i gymunedau ehangach Cymru.
Dywedodd Jeff Cuthbert, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent: "Yn aml, y bobl ifanc yn ein carchardai yw rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Mae'n hanfodol bod asiantaethau'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector yn gweithio gyda'i gilydd i gynllunio gwasanaethau sy'n mynd i'r afael â rhai o'r materion cyffredin y mae pobl ifanc sy'n gadael carchar yn eu hwynebu, ac i sicrhau bod y cymorth cywir ar gael i dorri'r cylch troseddu.
"Os gallwn ni ddarparu llety diogel iddyn nhw, lle gallan nhw gael gafael ar gymorth ac adsefydlu, rwy'n hyderus y gallwn ni alluogi'r bobl ifanc hyn i fyw bywydau hapusach ac iachach ac ailgysylltu â'u teuluoedd a'u cymunedau."
Gall gwrthdaro teuluol effeithio'n fawr ar ailsefydlu cadarnhaol yn y gymuned, sy'n golygu y gall person ifanc adael y carchar heb unrhyw gymorth na chysylltiad ag aelodau allweddol o'i deulu. Gan weithio'n agos gyda Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi, bydd Gweithwyr Cyfryngu Teuluol arbenigol yn darparu cymorth wedi'i dargedu pan fo gwrthdaro wedi'i nodi cyn i berson ifanc gael ei ryddhau o'r carchar.
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi: "Gallai mynd i'r afael â gwrthdaro mewn teuluoedd cyn i berson ifanc adael y carchar wneud gwahaniaeth anhygoel i ddewisiadau'r person ifanc ac yn y pen draw i'w ddyfodol. Nid yn unig y mae'n cynyddu'r siawns y bydd person ifanc yn mynd i fyw mewn llety priodol ac yn ymgartrefu'n gyfforddus yn eu cymuned, mae hefyd yn golygu bod ganddyn nhw rwydwaith cymorth o'u cwmpas nad yw efallai wedi bod yno o'r blaen. Mae'r siawns y byddan nhw’n aildroseddu yn lleihau oherwydd bod ganddyn nhw bobl i droi atyn nhw pan fydd eu hangen arnyn nhw ond hefyd am fod ganddyn nhw nawr berthynas gadarnhaol sy'n golygu rhywbeth iddyn nhw."
Er mwyn lleihau'r risg o aildroseddu, bydd yr arbenigwyr yn eu maes, Cymru Ddiogelach, yn sefydlu canolfan gymorth newydd sbon yng Nghaerdydd i bobl ifanc gael mynediad iddi ar ôl gadael y carchar.
Bydd Gweithwyr Ymgysylltu a Chyfranogi yn darparu cymorth drwy sesiynau unigol a sesiynau grŵp, gan ddarparu gweithgareddau a chyfleoedd addysgol sy'n canolbwyntio ar adeiladu sylfaen sgiliau, cadernid a gallu person ifanc i gyfathrebu a'i helpu i lywio'r byd o'i gwmpas; caniatáu iddo symud ymlaen i lwybrau ehangach, mwy cadarnhaol yn y dyfodol.
Dywedodd llefarydd ar ran Cymru Ddiogelach: "Mae Cymru Ddiogelach wedi bod yn gweithio i amddiffyn, cynorthwyo a grymuso pobl agored i niwed, sy'n aml yn anweledig i weddill y gymdeithas, ers 20 mlynedd. Drwy'r gwasanaeth newydd hwn byddwn yn gallu cynorthwyo pobl ifanc sy'n cael trafferth gyda rhwystrau ychwanegol i symud ymlaen gyda bywyd ar ôl y carchar, fel anableddau dysgu a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod.
"Os ydym ni eisiau gweld newid gwirioneddol i bobl ifanc sy'n gadael y gwasanaeth carchardai mae angen iddyn nhw fod yn hyderus a'r sgiliau sydd eu hangen i wneud penderfyniadau gwybodus am eu camau nesaf mewn bywyd."
Gallai effaith y prosiect hwn ledaenu ar draws amrywiaeth o wasanaethau a ariennir yn statudol sydd y tu allan i'r system cyfiawnder troseddol a gwasanaethau cysylltiedig yng Nghymru. Mae'r holl bartneriaid yn awyddus i weld canlyniadau pendant sy'n dangos pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth ar y raddfa hon a sut y gall defnyddio dull cyfannol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc sy'n gadael y carchar.