Peidiwch â dioddef yn dawel

24ain Mawrth 2020

Ni ddylai unrhyw un orfod dioddef trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV).

Fodd bynnag, mae help ar gael i bobl sydd yn dioddef.

Llinell gymorth Llywodraeth Cymru yw Byw Heb Ofn, sy'n rhoi gwybodaeth a chyngor i bobl sy'n dioddef cam-drin domestig neu drais rhywiol. Mae'r llinell gymorth am ddim ac mae staff ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos gyda gwybodaeth, i gefnogi pobl ac i gyfeirio pobl at y cymorth cywir. Y rhif ffôn yw 0808 8010 800.

Gallwch fynd at www.gwentsafeguarding.org.uk hefyd a chlicio ar VAWDASV am wybodaeth a chyngor.

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert: “Mae un mewn pedair o fenywod ac un mewn chwech o ddynion yn cael eu heffeithio gan gam-drin ar ryw adeg yn eu bywydau.

“Mae cam-drin yn digwydd ar sawl ffurf, boed yn gorfforol, rhywiol, ariannol, gwahaniaethol, cyfundrefnol, emosiynol neu drwy esgeulustod. Gall y cyflawnwr fod yn berthynas, yn ffrind neu gymydog, yn aelod o staff neu'n rhywun yn y gymuned.

“I helpu i fynd i'r afael a hyn, rydym yn gweithio gyda Thîm Rhanbarthol VAWDASV Gwent a Heddlu Gwent i annog pobl sy'n profi trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a/neu drais rhywiol i geisio cymorth.

"Codwch eich llais, gan nad oes unrhyw esgus dros unrhyw gam-drin. Peidiwch â dioddef yn dawel; mae help ar gael.”

Bob blwyddyn mae tua 1.9 miliwn o bobl yn y DU yn dioddef rhyw fath o gam-drin domestig ac mae dros 100,000 o bobl yn y DU mewn perygl difrifol ac uniongyrchol o gael eu llofruddio neu eu hanafu'n ddifrifol o ganlyniad i gam-drin domestig.

Dywedodd Arolygydd Chris Back : “Mae cam-drin domestig yn gallu effeithio ar unrhyw un, beth bynnag yw eu rhyw, oedran, hil, rhywioldeb neu gefndir cymdeithasol. Yn aml, mae dioddefwyr yn dioddef yn dawel am flynyddoedd maith ac mae ymchwil yn dangos bod hon yn broblem sy'n cael ei than-hysbysu yn sylweddol yn ein cymunedau.

"Mae cam-drin yn gallu digwydd ar sawl ffurf ac yn aml mae ganddo ganlyniadau sy'n newid bywyd y dioddefwyr. Mae help ar gael ac os nad ydych eisiau siarad â'r heddlu mae nifer o asiantaethau eraill sy'n cynnig llinellau cymorth cyfrinachol am ddim ac amrywiaeth o gymorth a chefnogaeth i chi.”

Mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn droseddau sy'n gudd i raddau helaeth, ac eto mae saith menyw'n cael eu lladd bob mis gan bartner presennol neu gyn bartner yng Nghymru a Lloegr. Amcangyfrifir bod 130,000 o blant yn byw mewn cartrefi lle mae risg uchel o gam-drin domestig, ac mae 62% o blant sy'n byw gyda cham-drin domestig yn cael eu niweidio'n uniongyrchol gan y person sy'n cyflawni'r cam-drin.

Mae'r profiadau niweidiol hyn yn ystod plentyndod yn gallu cael effaith parhaol ar bobl. I helpu i fynd i'r afael â hyn, trwy Ymgyrch Encompass mae Heddlu Gwent yn hysbysu ysgolion am unrhyw ddigwyddiadau o gam-drin domestig y mae plant wedi bod yn rhan ohonyn nhw neu wedi eu profi gyda’r nos neu yn ystod y nos cyn i wersi ddechrau'r diwrnod canlynol er mwyn sicrhau bod y gefnogaeth berthnasol mewn lle.

Dywedodd Arweinydd Rhanbarthol VAWDASV Gwent, Janie Dent: "Rydym yn benderfynol o dynnu sylw at droseddau VAWDASV, sy'n gudd gan amlaf, ac annog pobl sy'n dioddef i geisio cymorth. Ni all un asiantaeth yn unig fynd i'r afael â hyn a, thrwy weithio gyda'n gilydd, gallwn hyrwyddo diwylliant cefnogol sy'n cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy'n ymateb i unigolion a'u teuluoedd.

“Os ydych chi'n profi trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, codwch eich llais. Byddwn yn rhoi'r gefnogaeth a'r cyngor sydd eu hangen arnoch chi i'ch helpu chi i wneud unrhyw benderfyniadau a byddwn yn eich helpu chi i gymryd camau i ddod â’r cam-drin i ben a sicrhau nad yw'n digwydd eto.”

Ewch i www.gwentsafeguarding.org.uk a chliciwch ar VAWDASV am ragor o wybodaeth a chyngor.