Panel yr Heddlu a Throseddu yn gwneud argymhelliad ynglŷn â’r praesept

29ain Ionawr 2021

Mae Panel yr Heddlu a Throseddu Gwent wedi adolygu'r cynnydd arfaethedig i braesept treth y cyngor a amlinellwyd gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert.

Mae wedi argymell bod y Comisiynydd yn ystyried opsiynau i ostwng y cynnydd arfaethedig o 5.49 y cant yn y praesept ar gyfer 2021/22, ar yr amod nad yw'n effeithio ar niferoedd swyddogion rheng flaen a staff.

Gwnaeth Panel yr Heddlu a Throseddu Gwent, sy'n gorff o gynrychiolwyr o bob un o'r pum sir yng Ngwent, yr argymhelliad mewn cyfarfod ddydd Gwener 29 Ionawr.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Jeff Cuthbert: "Mae hwn yn benderfyniad anodd i’r panel. Rwyf yn falch nad yw wedi rhoi feto ar y cynnig a'i fod wedi gwrando ar yr achos ariannol cadarn a wnaed gan fy swyddfa a Heddlu Gwent.

“Mae hwn yn un o'r penderfyniadau mwyaf anodd rwyf wedi gorfod eu gwneud yn ystod fy nghyfnod fel Comisiynydd ac rwyf am sicrhau trigolion nad yw'n cael ei wneud ar chwarae bach.

Rwyf yn deall y byddai unrhyw gynnydd yn nhreth y cyngor yn gallu bod yn anodd i drigolion, yn arbennig yn ystod y pandemig hwn. Fodd bynnag, y gwirionedd yw bod swm sylweddol o gyllideb Heddlu Gwent yn dod gan drethdalwyr lleol a, heb gynnydd, bydd rhaid gwneud toriadau.

“Byddaf yn siarad â Phrif Gwnstabl Heddlu Gwent i ddeall sut gallwn fanteisio i'r eithaf ar arbedion a chynnal y rheng flaen cyn gwneud penderfyniad terfynol ar y praesept yn ystod yr wythnosau nesaf.”