Myfyrwyr Casnewydd Yn Derbyn Diolch Gan Heddlu Gwent

2il Hydref 2019

Mae myfyrwyr celf yng Nghasnewydd wedi derbyn rhodd gan swyddogion Heddlu Gwent i ddiolch iddyn nhw am eu cymorth yn codi arian ar gyfer clefyd Niwronau Motor.

Cyflwynwyd bwndel o roddion i fyfyrwyr celf Lefel 1 a Lefel 2 Coleg Gwent, yn cynnwys paent a brwshys, i ddiolch iddyn nhw am eu cyfraniad i raffl cinio ac ocsiwn elusennol Gwobrau Chwaraeon Heddlu Gwent 2019.

Mae’r myfyrwyr talentog yn defnyddio pinnau bowlio deg wedi eu hailgylchu, rhodd gan Superbowl, i ddylunio a chreu darnau unigol i gael eu rhoi fel gwobrau raffl yn y digwyddiad.

Ar ôl meddwl am y syniad, roedd Swyddog Cymorth Cymunedol (SCC) Alex Donne wrth ei fodd i gwrdd â'r myfyrwyr a oedd yn cymryd rhan, i siarad am eu hysbrydoliaeth ac i weld sut roedd eu syniadau'n datblygu.

Yn siarad yn y cyflwyniad, dywedodd SCC Donne, "Ychydig o fisoedd yn ôl, gwelais bin bowlio deg ar werth mewn papur lleol a chefais syniad o beth i'w wneud ar gyfer y raffl elusen eleni.

"Es at ddarlithydd Celf a Dylunio Coleg Gwent ar ddiwedd y tymor diwethaf gyda'r syniad ac ers hynny, mae hi wedi defnyddio talentau ei dosbarth i ddylunio, paratoi a phaentio'r pinnau ar gyfer y prosiect.

"Mae brwdfrydedd y myfyrwyr wedi bod yn anhygoel ac ni allaf aros i weld y darnau gorffenedig yn y cinio gwobrwyo fis nesaf."

Esboniodd darlithydd Celf a Dylunio Coleg Gwent, Charmaine Turner, sut mae'r prosiect wedi datblygu nid yn unig sgiliau academaidd ei myfyrwyr, ond eu sgiliau cymdeithasol hefyd.

Dywedodd. "Mae'r prosiect hwn wedi galluogi myfyrwyr i feithrin cydberthnasau pwysig gyda chymunedau lleol yn ogystal ag ennill profiadau yn y byd real.

"Maen nhw wedi gallu gwneud y cysylltiad rhwng derbyn briff dylunio gan gleient a chynhyrchu'r darn gorffenedig.

“Trwy gefnogi achos da, maen nhw wedi gweld bod eu sgiliau a'u gwaith caled o fudd i'n cymunedau ac rwy'n gobeithio y gallwn barhau i weithio gyda Heddlu Gwent ar brosiectau fel hyn yn y dyfodol."

Bydd y darnau gorffenedig yn cael eu rhoi fel gwobrau raffl yng nghinio Gwobrau Chwaraeon Heddlu Gwent dydd Sadwrn, 19 Hydref 2019.