Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent yn croesawu adolygiad y llywodraeth o'r llysoedd teulu

29ain Mehefin 2020

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert, wedi croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i gadw dioddefwyr cam-drin domestig a'u teuluoedd yn fwy diogel.

Mae'r llywodraeth wedi cyhoeddi newid mawr i system y llysoedd teulu a fydd yn cynnwys mesurau megis mynedfeydd ac ystafelloedd aros ar wahân mewn llysoedd, mwy o bwerau i farnwyr, a phrosesau llys ymchwiliol newydd i osgoi gwrthdaro.

Dywedodd Jeff Cuthbert: "Mae hwn yn rhywbeth mae dioddefwyr wedi bod yn galw amdano ers amser ac mae'n galonogol gweld bod camau gweithredu'n cael eu cymryd.

“Mae'r system bresennol yn gadael dioddefwyr a'u plant i lawr yn aml, gan achosi niwed difrifol dros nifer o flynyddoedd.

"Mae'r adolygiad hwn wedi cael ei arwain gan arbenigwyr yn defnyddio dull sy'n canolbwyntio ar y dioddefwr a bydd yn helpu rhai o'r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas."