Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert, wedi canmol gwaith y lluoedd arfog.

25ain Mehefin 2020

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert, wedi canmol gwaith y lluoedd arfog.

Yn siarad cyn Diwrnod y Lluoedd Arfog dydd Sadwrn 27 Mehefin, dywedodd: “Hoffwn ddiolch i'n lluoedd arfog, y lluoedd sy'n gwasanaethu, teuluoedd, cyn filwyr a chadetiaid am eu hymrwymiad a'u hymroddiad parhaus i amddiffyn ein gwlad.

“Mae wedi dod yn amlwg yn ddiweddar pa mor bwysig mae gwaith y lluoedd arfog wedi bod wrth ymdopi â'r pandemig. O helpu i adeiladu ysbytai dros dro i ddarparu cymorth hanfodol i gymunedau yn ystod y cyfyngiadau symud, maen nhw wedi gweithio mewn partneriaeth â'r gwasanaethau cyhoeddus i gadw ein cymunedau'n ddiogel.

"Dan amgylchiadau arferol, byddai amrywiaeth o ddigwyddiadau'n cael eu cynnal i nodi'r diwrnod. Fodd bynnag, gan ei bod yn bwysig ein bod yn glynu wrth ganllawiau Llywodraeth Cymru ar gadw pellter cymdeithasol i helpu i frwydro yn erbyn Covid-19, gofynnaf i chi gymryd eiliad i fyfyrio ar faint ein dyled ni i'n lluoedd arfog yn lle hynny."

Mae cyngor a chymorth helaeth ar gael i deuluoedd aelodau'r lluoedd arfog a chyn filwyr ble bynnag rydych yn byw yng Ngwent: