Llinell Gymorth Covid-19 I bobl Ddu ac Asiaidd
27ain Tachwedd 2020
Mae’r elusen Barnardo’s wedi lansio gwasanaeth cymorth newydd i blant a phobl ifanc Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a’u teuluoedd sydd wedi cael eu heffeithio gan Covid-19.
Mae’r gwasanaeth newydd yn cynnig llinell gymorth i’w ffonio am ddim a chyfleuster sgwrsio ar y we i roi cymorth parhaus gydag amryw o faterion gan gynnwys iechyd meddwl, profedigaeth, chwalu teuluol, esgeulustod, dychwelyd i’r ysgol, cyngor i rieni, cwnsela, straen teuluol, gwahaniaethu, rhwystrau i wasanaethau a mwy.
Dysgwch fwy ac ewch at y cyfleuster sgwrsio ar y we ar wefan Barnardo’s neu ffoniwch 0800 1512 605.