Lansio lle diogel i fenywod yng Nghasnewydd

8fed Gorffennaf 2022

Mae lle diogel newydd i fenywod sy’n dioddef, neu sy’n wynebu risg o drais neu o gam-fanteisio arnynt yn rhywiol, wedi lansio yng Nghasnewydd.

Mae Rhif 56 yn cael ei gynnal gan Gymorth i Fenywod Cyfannol. 

Mae’n amgylchedd diogel lle gall menywod ymlacio a chasglu dillad a hanfodion glân, a manteisio ar amrywiaeth eang o wasanaethau cymorth hefyd.

Dywedodd Sally Howells o Gymorth i Fenywod Cyfannol: “Mae No.56 yn cynnig lle diogel croesawgar lle gall menywod gael seibiant mewn amgylchedd o ddealltwriaeth heb feirniadaeth. Gallan nhw ymlacio, cael cawod, cael pryd cynnes, casglu dillad glân a nwyddau glanweithdra, a manteisio ar gymorth iechyd rhywiol ac iechyd meddwl hanfodol pan fyddan nhw’n barod i wneud hynny.

“Trwy greu lle diogel fel hwn, a gofalu am anghenion corfforol ac ymarferol menywod, mae modd inni alluogi’r rhai sydd wedi cael profiad o drais rhywiol, cam-fanteisio, a/neu eu treisio i deimlo’n fwy diogel, gwella’u hiechyd a’u lles, ac ymdopi’n well ag agweddau ar eu bywydau bob dydd.”

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert, wedi cyfrannu £20,000 at y prosiect drwy ei gronfa gymunedol.


Dywedodd: “Ni ddylai unrhyw un ddioddef trais na chael eu cam-fanteisio arnynt yn rhywiol ond rydym yn gwybod y gall fod llawer o rwystrau i’r rhai sy’n wynebu’r math hwn o gamdriniaeth i geisio cymorth.

“Gobeithio y bydd y lle diogel newydd hwn yn rhoi’r hyder i ddioddefwyr, neu’r rhai sy’n wynebu risg, i geisio’r cymorth sydd ei angen arnynt i fyw bywydau hapusach, iachach a mwy diogel.”

Am wybodaeth ffoniwch 03300 564456 neu anfonwch e-bost i horizon@cyfannol.org.uk