Hwnt ac yma

3ydd Awst 2022

Roedd fy nhîm allan ledled Gwent yr wythnos diwethaf yn siarad â channoedd o drigolion yng Nghaerffili, Sir Fynwy a Chasnewydd.

Aethon nhw i ddiwrnodau hwyl i’r teulu yn Springfield a chanol tref Caldicot, sesiwn ymgysylltu ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y Coed Duon, a’r ŵyl Reggae a Riddim yn Nhŷ Tredegar yng Nghasnewydd, a drefnwyd gan ein partneriaid yn Urban Circle.

Gyda ni roedd sefydliadau partner gan gynnwys Heddlu Gwent, Cyfannol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Fearless a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.

Yn ogystal â siarad â thrigolion am faterion sydd o bwys iddyn nhw, fe wnaethom ni hefyd fanteisio ar y cyfle i ofyn eu barn ar gyfleusterau’r heddlu.

Mae Strategaeth Ystadau Heddlu Gwent yn cael ei adolygu i sicrhau bod safleoedd yn gynaliadwy, yn fforddiadwy ac yn addas i ddarparu gwasanaeth plismona cyfoes.


Dweud eich dweud