Heddlu’n ymateb i gynnydd cenedlaethol mewn dwyn beiciau

3ydd Awst 2022

Mae gwerth miloedd o bunnoedd o eiddo wedi’i ddychwelyd i’r perchnogion priodol yn dilyn ymgyrch gan Heddlu Gwent i fynd i’r afael â lladrata beiciau.

Llynedd gwelwyd cynnydd cenedlaethol mewn achosion o ddwyn beiciau wrth i fwy na 77,000 o feiciau gael eu dwyn ledled y DU.

Mewn ymateb i hyn, mae Heddlu Gwent yn cynnal ystod o gamau ataliol i ddiogelu trigolion, yn ogystal ag ymgyrch ragweithiol i ddal troseddwyr.

Dywedodd y Prif Arolygydd Hannah Lawton: “Ystyrir lladrata beiciau yn drosedd lefel isel yn aml. Fodd bynnag, gall gael effaith enfawr ar ddioddefwyr. Gall colli beic o ganlyniad i’w ddwyn ddileu annibyniaeth rhywun a dileu ei allu i fynd i’r gwaith neu wneud teithiau hanfodol.

“Mae hefyd yn gysylltiedig â mathau eraill o drosedd, fel gwerthu cyffuriau a throseddau difrifol a chyfundrefnol; sef pam rydym yn canolbwyntio ar ladrata beiciau fel rhan o’n gwaith ehangach i fynd i’r afael â bwrgleriaeth a lladrata ledled Gwent.”

Mae cannoedd o drigolion wedi marcio eu beiciau â Smartwater fforensig sy’n ddull sydd wedi’i brofi i atal lladron. Mae swyddogion yr heddlu wedi gweithio gyda thai arwerthu, masnachwyr metel sgrap a manwerthwyr ail-law yng Ngwent i help i atal nwyddau sydd wedi’u dwyn rhag cael eu gwerthu.

Mae mwy na 100 o ‘trap bikes’ wedi’u defnyddio ar draws y rhanbarth ac mae tua 32 y cant o’r rhain eisoes yn arwain at nodi ac arestio troseddwyr. Mae’r arestiadau hyn hefyd wedi arwain at nodi troseddau eraill, ac at atafaelu gwerth miloedd o bunnoedd o eiddo sydd wedi’i ddwyn sydd wedi’i ddychwelyd i’w berchnogion priodol.

Mae cadw cymdogaethau yn ddiogel yn flaenoriaeth fawr i’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd Jeff Cuthbert.

Dywedodd: “Mae lladrata beiciau yn broblem gyffredin sydd ar gynnydd ledled y wlad. Rydym yn gwybod y gall fod yn ddinistriol i ddioddefwyr ac y gall troseddwyr fod ynghlwm wrth fathau eraill o droseddau yn aml.

“Mae’r dull rhagweithiol hwn gan Heddlu Gwent yn dangos bod y broblem hon yn cael ei chymryd o ddifri. Rydym yn ceisio atal pobl rhag dioddef troseddau yn y lle cyntaf ac yn anfon neges glir i’r troseddwyr na fyddwn yn goddef lladrata beiciau yng Ngwent.”

I gael rhagor o wybodaeth am Dangos y Drws i Drosedd ewch i wefan Heddlu Gwent.