Gwobrau Ieuenctid a Chymunedol Cenedlaethol Hanes Pobl Dduon Cymru
7fed Hydref 2022
Roeddwn wrth fy modd i ymuno â Heddlu Gwent i gyflwyno Gwobr Gymunedol yng Ngwobrau Ieuenctid a Chymunedol Cenedlaethol Hanes Pobl Dduon Cymru yr wythnos hon.
Mae'r gwobrau hyn yn cydnabod cyfraniadau pobl ifanc eithriadol o dras Affricanaidd a Charibïaidd, ac yn dathlu eu llwyddiannau.
Mae derbynnydd y wobr Rahila Hamid / Reggie Al-Haddi wedi gwneud gwaith gwych yn eu cymuned ac roeddwn yn falch iawn o gyflwyno'r wobr hon iddynt.