Gwent yn sicrhau £700,000 i roi cymorth i oroeswyr camdriniaeth a thrais rhywiol, ac i fynd i'r afael â throsedd yn y gymdogaeth

30ain Tachwedd 2023

Mae Gwent wedi derbyn £700,553.12 gan gronfa Strydoedd Saffach y Swyddfa Gartref i gefnogi ymgyrchoedd sy'n mynd i'r afael â throsedd mewn cymunedau.

Bydd yr arian yn cael ei rannu rhwng dau brosiect. Bydd y cyntaf yn canolbwyntio ar drosedd yn y gymdogaeth yn ardaloedd Glynebwy a Maendy. Bydd ail brosiect yn gwella diogelwch menywod a merched ac yn rhoi cymorth i oroeswyr camdriniaeth, trwy weithio gyda cholegau a phrifysgolion Gwent.

Bydd y prosiectau'n cael eu darparu mewn partneriaeth â Heddlu Gwent, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Cyngor Dinas Casnewydd, New Pathways a Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd.

Bydd y cyllid yn galluogi Heddlu Gwent i ddarparu mwy na 2,500 o becynnau atal trosedd, gan gynnwys larymau cartref a phecynnau marcio eiddo, i breswylwyr yn ardaloedd Glynebwy a Maendy, a bydd yn talu am gamerâu TCCC gosodadwy i fynd i'r afael â'r broblem o ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Meddai Prif Uwch-arolygydd Carl Williams: "Mae ein swyddogion wedi ymroi i fynd i'r afael â throseddau meddiangar fel byrgleriaeth a dwyn a, gyda'r arian a dderbynnir trwy'r ymgyrch, byddwn yn gallu rhoi cyfarpar diogelwch a chyngor i rai preswylwyr ym Maendy a Glynebwy i'w helpu nhw i amddiffyn eu cartrefi a'u heiddo, ac i atal lladron.

"Mae gwneud ein cymunedau'n fwy diogel, a gwneud iddynt deimlo'n fwy diogel, i fenywod a merched bob amser yn flaenoriaeth i Heddlu Gwent, a bydd y cyllid yn helpu swyddogion yn ein gwaith gyda phartneriaid i ddiogelu menywod a merched rhag trais ac agweddau ac ymddygiad annerbyniol.

"Trwy ddefnyddio'r mesurau atal yma, ein nod yw gwella diogelwch, a mynd i'r afael â throseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y gymdogaeth."

Bydd arian ar gael i wella seilwaith goleuadau stryd a datblygu cynlluniau Gwarchod Cymdogaeth yng Nglynebwy, ac i Gyngor Dinas Casnewydd benodi gweithiwr ymateb pwrpasol i roi sylw i'r problemau cynyddol sy'n gysylltiedig ag e-sgwteri.

Meddai'r Cynghorydd Helen Cunningham, Aelod Cabinet Lle ac Amgylchedd:

"Rydym yn ymroddedig i weithio gyda'n partneriaid, yn benodol Heddlu Gwent a Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, i gadw cymunedau'n ddiogel. 

"Rydym wrth ein boddau bod y cais am gyllid Strydoedd Saffach wedi bod yn llwyddiant a bydd yn cael ei ddefnyddio i gefnogi cynlluniau yma ym Mlaenau Gwent sydd wedi cael eu creu i helpu pobl i deimlo'n ddiogel yn eu cartrefi, trwy ddosbarthu cyfarpar diogelwch cartref.

"Rydym yn gwerthfawrogi cefnogaeth trigolion a sefydliadau sy'n gweithio gyda ni ar ddiogelwch cymunedol hefyd. Mae cynlluniau Gwarchod Cymdogaeth yn ehangu ym Mlaenau Gwent er mwyn i bawb ohonom ni allu cydweithio ar y problemau dan sylw. Byddwn yn cynnig hyfforddiant i wirfoddolwyr a chefnogaeth gyda'r problemau diogelwch cymunedol sy'n effeithio ar eu cymdogaethau."

Meddai'r Cynghorydd Jane Mudd, arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd: "Rwy'n falch, trwy ein partneriaeth gyda Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd a Heddlu Gwent, y bydd Casnewydd yn elwa ar fwy o gyllid i fynd i'r afael â throsedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ein cymunedau.

"Cymunedau cadarn, diogel yw sylfaen unrhyw dref neu ddinas ffyniannus. Bydd y cyllid yma'n ein helpu ni i ehangu ein gwaith, ac rwy'n arbennig o falch y byddwn ni'n gallu cynnig adnodd pwrpasol i fynd i'r afael â phroblemau sy'n cael eu hachosi gan y defnydd anghyfreithlon o e-sgwteri."

Bydd New Pathways, y darparwr cymorth mwyaf yng Nghymru i bobl sydd wedi dioddef trais rhywiol, yn gweithio gyda cholegau a phrifysgolion Gwent i ddarparu hyfforddiant bregusrwydd i fyfyrwyr, staff a'r rhai sy'n gweithio yn yr economi nos. Bydd yr hyfforddiant yn helpu myfyrwyr, a'r rhai sy'n gweithio'n agos gyda nhw, i adnabod arwyddion camdriniaeth a deall sut i ymdrin â datgeliadau gan ddioddefwyr.

Bydd myfyrwyr a staff yn derbyn gweithdai sy'n rhoi sylw i ymddygiad amhriodol hefyd, a bydd New Pathways yn cynnal gweithdai ymyrraeth i unrhyw un sy'n cael ei ganfod i fod yn dangos agweddau neu ymddygiad sy'n peri pryder.

Meddai Mike Wilkinson, Dirprwy Brif Weithredwr New Pathways: "Dylai ein cymunedau fod yn llefydd lle mae pobl yn teimlo'n ddiogel, ond yn anffodus bob blwyddyn yng Ngwent rydym yn rhoi cymorth i filoedd o bobl sydd wedi dioddef trais rhywiol, ac un o'r grwpiau sydd yn y perygl mwyaf yw menywod a merched o oedran addysg bellach ac addysg uwch. Gan weithio gyda'n partneriaid, byddwn yn darparu hyfforddiant a chymorth a fydd yn gwella'r ymateb i bobl sydd wedi cael eu heffeithio gan drais rhywiol, a bydd hynny hefyd yn helpu i gadw pobl yn ddiogel ac yn eu hatal nhw rhag dod yn ddioddefwyr.

Mae menywod a merched yng Ngwent yn destun aflonyddu rhywiol ac agweddau cas at fenywod yn rheolaidd, yn arbennig mewn lleoliadau economi'r nos. Trwy'r prosiect yma byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid eto i herio'r agweddau a'r ymddygiad yma trwy ddysgu pobl am y niwed sy'n cael ei achosi, gyda'r nod o wneud ein cymunedau'n llefydd mwy diogel lle nad yw camdriniaeth yn erbyn pobl eraill yn cael ei oddef.” 

Mae cyllid Cronfa Strydoedd Saffach Llywodraeth y DU yn cael ei ddyrannu i gomisiynwyr yr heddlu a throsedd i gefnogi gwaith partner rhwng yr heddlu, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill ar gyfer prosiectau sy'n cadw cymunedau'n ddiogel.