Gwent yn croesawu'r Angel Cyllyll

21ain Hydref 2022

Mae cerflun anferth wedi'i wneud o dros 100,000 o gyllyll, yn dod i Went ym mis Tachwedd yn rhan o daith gwrth-drais genedlaethol.  
 
Bydd yr Angel Cyllyll 27 troedfedd yn cael ei osod yng nghanolfan siopa Friars Walk yng Nghasnewydd a bydd yn sefyll yn dalog i atgoffa pobl o effeithiau dinistriol trais ac ymosodiad.  
 
Cafodd ei gomisiynu gan Ganolfan Gwaith Haearn Prydain yng Nghroesoswallt , ac fe'i crëwyd gan yr arlunydd Alfie Bradley. Mae'r cerflun eiconig wedi bod yn ymweld â threfi a dinasoedd ledled y wlad. Bydd yn cael ei arddangos trwy gydol mis Tachwedd.  
 
Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert: "Mae'r Angel Cyllyll yn atgoffa pob un ohonom o'r effaith ddinistriol mae trais ac ymosodiad yn gallu ei chael ar gymunedau.  
 
“Er mwyn atal troseddau treisgar mae angen i ni fachu ar y cyfle cynharaf posibl. Mae ymweliad yr Angel Cyllyll â Gwent yn gyfle i ni ymgysylltu â'n trigolion, yn arbennig ein plant a phobl ifanc, a sicrhau bod ganddynt bopeth sydd ei angen arnynt i helpu i gadw eu hunain, eu ffrindiau a'u teuluoedd yn ddiogel. 
 
"Hoffwn annog trigolion o bob rhan o Went i ddod i weld yr Angel Cyllyll yn ystod mis Tachwedd." 
 
Meddai Prif Gwnstabl Heddlu Gwent, Pam Kelly: "Mae'n fraint ac yn anrhydedd cael rhoi lle i'r Angel Cyllyll yng Ngwent. Mae'r cerflun yn atgoffa pob un ohonom ni am bwysigrwydd codi ymwybyddiaeth o droseddau cyllyll a throseddau treisgar a hoffwn annog cymaint o bobl â phosibl i fynd i weld y cerflun rhyfeddol hwn.

"Rwyf yn gobeithio y bydd ei bresenoldeb yn arwain at fwy o drafodaeth yn ein cymunedau am yr effaith mae troseddau cyllyll yn ei chael ar ddioddefwyr a'u teuluoedd mewn ymgais i leihau'r perygl o'r troseddau hyn ledled Gwent. Hoffwn ddweud diolch enfawr wrth bawb sydd wedi helpu i ddod â'r cerflun i Went." 

Mae'r Angel Cyllyll wedi ei wneud o gyllyll sydd wedi cael eu hildio ledled y DU ac mae negeseuon o obaith gan deuluoedd y dioddefwyr wedi cael eu hysgythru ar ei adenydd. Mae wedi ymweld â 27 o drefi a dinasoedd ledled y DU ers iddo ddechrau ei daith genedlaethol yn 2018.  

 
Bydd rhaglen o ddigwyddiadau ymgysylltu'n cael eu cynnal i gyd-fynd ag ymweliad yr Angel Cyllyll wedi'u hanelu at bobl ifanc ledled pum sir Gwent.  
 
Meddai'r Cynghorydd Jane Mudd, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd: "Mae addysg a thrafodaeth yn rhan bwysig o atal ac ymdrin ag effaith trais ac ymosodiad. Mae gweithdai arbennig ac estyniad o'r gwaith sy'n cael ei wneud yn barod mewn ysgolion yn rhan o'r ymgyrch hwn. Rwyf yn sicr y bydd darn o gelf mor drawiadol yn sbarduno llawer o drafodaethau."