Gwaith partneriaeth ardderchog i fynd i’r afael â masnachwyr twyllodrus

15fed Hydref 2021

Mae Heddlu Gwent wedi bod yn gweithio gyda thimau safonau masnach a thrwyddedu awdurdodau lleol, yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA) a Chyfoeth Naturiol Cymru i fynd i’r afael â masnachwyr twyllodrus. 

 

Cynhaliwyd Ymgyrch Masnachwyr Twyllodrus ledled Gwent, mewn ymgais i orfodi’r gyfraith ac amharu ar fasnachwyr twyllodrus.

 

Mae Heddlu Gwent wedi bod yn gweithio gyda thimau safonau masnach lleol i edrych ar fasnachwyr twyllodrus posib sy’n gweithio mewn cymunedau ledled Gwent, a chynhaliwyd hap-wiriadau ar y ffyrdd i ganfod achosion posib o fasnachu twyllodrus a cherbydau na ddylai fod ar y ffordd.

 

Meddai Jeff Cuthbert, Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent: “Rwy’n hynod o falch o weld gwaith partneriaeth ardderchog yn digwydd i helpu i atal cymunedau rhag niwed. Mae masnachwyr twyllodrus yn achosi dinistr emosiynol ac ariannol i bobl o bob oed, ac mae’n rhaid eu hatal.

 

“Mae cefnogaeth ar gyfer dioddefwyr yn bwysig, ac felly rwy’n falch iawn bod swyddogion lleol wedi bod yn gweithio’n agos gyda thimau safonau masnach i gynnig cyngor a chefnogaeth i bobl y mae masnachwyr twyllodrus wedi manteisio arnyn nhw.

 

“Cynhaliwyd gwaith trylwyr yn gwirio cerbydau a thrwyddedau fel rhan o’r Ymgyrch Masnachwyr Twyllodrus. Mae gan bob gyrrwr a busnes gyfrifoldeb i sicrhau bod eu cerbydau mewn cyflwr da sy’n addas i fod ar y ffordd ar ddechrau pob taith. Drwy wneud hyn, gallan nhw helpu i atal damweiniau a chadw’u hunain a defnyddwyr eraill y ffyrdd yn ddiogel.”

 

Diogelwch eich hunain rhag masnachwyr twyllodrus:

  • ‘Cadwch y tacle allan o'ch cartre!’
  • Peidiwch byth â gweithio gyda galwyr diwahoddiad, a pheidiwch â gadael i neb eich brysio i wneud gwaith atgyweirio ar eich cartref
  • Peidiwch byth â thalu ag arian parod ymlaen llaw, a pheidiwch â mynd i’r banc nac at dwll yn y wal gyda masnachwr
  • Dylech bob amser gael tri dyfynbris cyn cytuno i gael gwaith wedi’i wneud
  • Trafodwch unrhyw waith rydych chi’n teimlo sydd angen ei wneud ar eich cartref gyda pherthynas neu ffrind a all roi cymorth i ddod o hyd i fasnachwr ag enw da
  • Peidiwch â chytuno i unrhyw waith nac arwyddo unrhyw beth yn syth
  • Peidiwch â gadael i rywun roi pwysau arnoch i wneud y gwaith.

 

Os ydych chi’n amau bod masnachwr twyllodrus wrth eich drws, cysylltwch â’r heddlu drwy ffonio 101 neu drwy anfon neges breifat ar y cyfryngau cymdeithasol @gwentpolice.

Mewn argyfwng, ffoniwch 999. Gallwch hefyd riportio masnachwyr twyllodrus wrth eich gwasanaeth safonau masnach lleol drwy ffonio Llinell Gymorth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth, 0808 223 1133.

 

Timau safonau masnach lleol

  • Blaenau Gwent: 01495 357813

https://www.blaenau-gwent.gov.uk/cy/preswylwyr/safonau-masnach/

  • Caerffili: 01443 811300

https://www.caerphilly.gov.uk/Business/Trading-standards?lang=cy-gb

  • Sir Fynwy: 01633 644644

www.monmouthshire.gov.uk/trading-standards/

  • Casnewydd: 01633 656 656

www.newport.gov.uk/cy/Business/Trading-Standards/Trading-Standards.aspx