Gall grwpiau cymunedol yng Ngwent wneud cais am hyd at £5,000

20fed Rhagfyr 2017

Gall grwpiau cymunedol yng Ngwent wneud cais am hyd at £5,000

Mae gan brosiectau sy’n seiliedig yn y gymuned yng Ngwent tan ddiwedd y mis i wneud cais am hyd at £5,000 o Gronfa Gymunedol Uchel Siryf Gwent.

Mae gan grwpiau cymunedol, sefydliadau gwirfoddol ac elusennau lleol yng Ngwent tan 31 Ionawr 2018 i gyflwyno eu ceisiadau am brosiectau sy’n rhannu nodau ac amcanion Cronfa Gymunedol Uchel Siryf Gwent. Daw’r gronfa o arian a godwyd gan yr Uchel Siryf drwy gydol y flwyddyn. Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, hefyd wedi cyfrannu £50,000 mewn arian parod a atafaelwyd gan droseddwyr tuag at y gronfa.

Y llynedd, gyda chefnogaeth gan Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, llwyddodd yr Uchel Siryf i ddyfarnu ymron i £74,000 i 22 o brosiectau cymunedol ledled awdurdodau lleol Casnewydd, Caerffili, Blaenau Gwent, Torfaen a Sir Fynwy.

Nod y Gronfa eleni yw darparu ansawdd bywyd gwell a mwy diogel i bobl Gwent trwy gefnogi mentrau a phrosiectau seiliedig yn y gymuned sy’n lleihau trosedd a gwella diogelwch cymunedol. Rhoddir pwyslais hefyd ar brosiectau sy’n ceisio mentora a chefnogi pobl ifanc ar draws Gwent.

Estynnir gwahoddiad i grwpiau wneud cais am grantiau o hyd at £5,000 i gefnogi amrywiaeth o gostau, a allai gynnwys:

  • Cynllun peilot ar gyfer prosiectau newydd;
  • Costau rhedeg ar gyfer rhaglen o weithgareddau;
  • Prynu offer a deunyddiau.

Bydd y grantiau’n cael eu dyfarnu ym mis Mawrth 2018 trwy’r digwyddiad rhoi grantiau blynyddol. Mae’r digwyddiad unigryw hwn yn bartneriaeth rhwng Cronfa Gymunedol Uchel Siryf Gwent, Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent a’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru.

Wrth annog prosiectau i wneud cais, dywedodd Uchel Siryf Gwent, Kevin Thomas: “Mae Cronfa Gymunedol Uchel Siryf Gwent yn darparu ansawdd bywyd gwell a mwy diogel i bobl Gwent trwy gefnogi mentrau seiliedig yn y gymuned sy’n mentora ac ysbrydoli pobl ifanc er mwyn helpu i leihau troseddu a gwella diogelwch cymunedol.Mae dros 5,000 o sefydliadau gwirfoddol yng Ngwent sy’n helpu i roi sylw i anghenion lleol, ac un o’r anghenion mwyaf llym yw diweithdra ymysg pobl ifanc. Mae’n bwysig bod sefydliadau cymunedol ar lawr gwlad, sy’n gwneud cymaint i wella cyfleoedd bywyd plant a phobl ifanc, yn derbyn y gefnogaeth y mae ei angen arnynt.”

Wrth sôn am ei gefnogaeth i’r gronfa, dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert: “Yr hyn sydd mor gadarnhaol am y gronfa hon yw ei bod yn cefnogi mentrau seiliedig yn y gymuned sy’n gallu helpu i atal troseddu a meithrin diogelwch cymunedol. Gweithredu i atal a lleihau troseddu trwy weithio gyda sefydliadau partner a chymunedau yw blaenoriaeth fy nghynllun heddlu a throseddu ar gyfer Gwent. Mae Cronfa Gymunedol yr Uchel Siryf yn enghraifft arall o sut rydym yn defnyddio arian cyhoeddus rydym wedi ei atafael gan droseddwyr i helpu i ariannu achosion gwerth chweil yn y gymuned.”

Rhaid i ymgeiswyr gwblhau ffurflen gais i’w chyflwyno i’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru erbyn 31 Ionawr 2018.

Os hoffech drafod eich cynigion, cysylltwch â’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru ar 02920 379 580 neu drwy e-bost at info@cfiw.org.uk . Gellir lawr lwytho ffurflenni cais a’r meini prawf ar gyfer y rhaglen ar wefan y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru www.cfiw.org.uk trwy ddefnyddio’r ddolen hon.

Bydd grantiau’n cael eu dyfarnu mewn digwyddiad rhoi grantiau i’r rhai sy’n cyfrannu ar ddydd Sadwrn 24 Mawrth 2018.