Ffilmiau Byrion yn Tynnu Sylw at Effaith Ddinistriol ‘Troseddau Cyfeillio’

11eg Mai 2018

Heddiw, mae Pobl yn Gyntaf Casnewydd a Pobl yn Gyntaf Torfaen yn rhoi dangosiad cyntaf o gyfres o ffilmiau byrion effeithiol sydd wedi cael eu cynhyrchu gan bobl ag anableddau dysgu i rybuddio am beryglon a thynnu sylw at effaith ddinistriol ‘troseddau cyfeillio’.

Mae ‘Troseddau Cyfeillio’ yn ffurf ar drosedd casineb lle mae unigolyn bregus yn cael ei ddefnyddio neu ei gam-drin gan rywun mae’n credu sy’n ffrind iddo. Mae’r ffilmiau, sydd wedi cael eu hariannu gan Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, yn cael eu dangos am y tro cyntaf heddiw yn Theatr Glan yr Afon yng Nghasnewydd. Maen nhw’n seiliedig ar rai o brofiadau go iawn aelodau o Pobl yn Gyntaf Casnewydd a Pobl yn Gyntaf Torfaen, y grwpiau hunan-eiriolaeth sy’n cael eu rhedeg gan bobl ag anableddau yng Ngwent.

Mae’r gyfres o ffilmiau’n adrodd hanes nifer o ddioddefwyr troseddau cyfeillio ledled Casnewydd a Thorfaen. Mae pob ffilm yn dangos sut y cafodd unigolion bregus eu targedu, yr effaith a gafodd y troseddau ar eu bywydau a sut roedd gwasanaethau fel Pobl yn Gyntaf Casnewydd a Thorfaen a Heddlu Gwent yn gallu rhoi cymorth iddyn nhw.

Yn aml, mae’n anodd i’r heddlu ymchwilio i drosedd cyfeillio oherwydd ei natur sensitif ac mae ymgyrchwyr yn credu bod y broblem yn llawer ehangach na’r hyn sy’n cael ei riportio ar hyn o bryd.

Wrth sôn am gefnogi’r prosiect, dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert: “Pobl sy’n cyflawni troseddau cyfeillio yw’r bobl waethaf gan eu bod yn cymryd mantais o unigolion bregus ac mae’n drosedd sy’n gwbl annerbyniol i unrhyw unigolyn gwaraidd. Rwyf yn falch iawn o gefnogi’r prosiect hwn ac yn annog unrhyw un sydd wedi cael ei effeithio gan droseddau cyfeillio i riportio’r digwyddiad naill ai i Pobl yn Gyntaf Casnewydd neu Dorfaen neu i Heddlu Gwent.”

Dywedodd Joe Blackley, o Pobl yn Gyntaf Casnewydd: “Trwy’r fenter hon ar y cyd â Pobl Torfaen yn Gyntaf rydym yn gobeithio tynnu sylw pawb yn y gymdeithas sydd ohoni at y broblem o droseddau cyfeillio a rhoi syniad i bobl ag anableddau dysgu o sut mae troseddau cyfeillio yn edrych. Nid yw llawer o’r unigolion hyn yn ymwybodol bod rhywun yn cymryd mantais ohonynt a bydd y ffilmiau hyn yn rhoi’r wybodaeth a’r hyder iddyn nhw nid yn unig i riportio troseddau cyfeillio i’r heddlu, ond i roi hyder iddynt y bydd yr heddlu’n cymryd y mater o ddifrif.”

Cafwyd canmoliaeth i’r detholiad o ffilmiau gan Dditectif Prif Uwch-arolygydd Mark Warrender, sy’n arwain ar Droseddau Casineb yn Heddlu Gwent, a ddywedodd: “Rwy’n falch iawn i allu cefnogi’r ffilmiau hyn sy’n bwriadu codi ymwybyddiaeth o droseddau cyfeillio. Mae’r math penodol hwn o drosedd yn cam-fanteisio ar bobl yn y ffordd fwyaf creulon. Rwy’n gobeithio y bydd y ffilmiau hyn nid yn unig yn galluogi pobl i adnabod troseddau cyfeillio, ond hefyd yn rhoi hyder i ddioddefwyr eu riportio i’r heddlu, oherwydd gallaf eu sicrhau y byddant yn cael cefnogaeth”