'Does Dim Angen Goryrru

18fed Tachwedd 2020

Mae mwy na chwarter gyrwyr gwrywaidd wedi cyfaddef eu bod yn gyrru ar gyflymderau o dros 100 yr awr yn ôl ffigyrau a ryddhawyd ar gyfer Wythnos Diogelwch Ffyrdd gan yr elusen Brake.

Yng Ngwent, mae gyrwyr wedi cael eu dal yn goryrru cymaint â 129 milltir yr awr ar ffyrdd 70 milltir yr awr, a hyd at 44 milltir yr awr, mwy na dwywaith y terfyn cyflymder, ar ffyrdd 20 milltir yr awr.

Mae'r ffigyrau hefyd yn dangos bod un o bob tri gyrrwr 25-34 oed yn dweud eu bod wedi gyrru dros 100 milltir yr awr.

Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Jeff Cuthbert, yw arweinydd diogelwch ar y ffyrdd Cymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu.

Dywedodd: "Yn y DU mae 11 marwolaeth neu anaf difrifol ar ein ffyrdd bob dydd lle mae cyflymder yn cael ei nodi fel ffactor cyfrannol.

“Ym mis Hydref gwnaethom gofnodi 966 o droseddau goryrru mewn un wythnos yn unig ac mae Heddlu Gwent yn ymdrin â digwyddiadau difrifol ar ein ffyrdd yn rheolaidd. Gellid osgoi bron pob un o'r digwyddiadau hyn yn hawdd pe byddai pobl yn arafu a chadw at y terfynau cyflymder.

"Yn awr, yn fwy nag erioed, mae angen i ni chwarae ein rhan i gadw'n ddiogel a chadw'r gwasanaethau brys ar gael i'r bobl sydd eu hangen nhw fwyaf.

"Felly byddwch yn arbennig o ofalus, arafwch, cadwch at y terfynau cyflymder a chadwch yn ddiogel ar y ffyrdd."