Diwrnod Windrush

22ain Mehefin 2020

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, wedi gwneud sylwadau i nodi Diwrnod Windrush.

Dywedodd: "72 o flynyddoedd yn ôl cyrhaeddodd cenhedlaeth o bobl o'r Caribî i ddechrau bywydau newydd yn y DU. Daethant yn y gobaith o greu bywyd gwell iddyn nhw a'u teuluoedd, ac i helpu i ail adeiladu'r DU ar ôl yr Ail Ryfel Byd.

"Yn drist, yn hytrach na chael croeso, cafodd y rhan fwyaf ohonynt eu trin yn wael, a bu'n rhaid iddynt wynebu'r hiliaeth a'r gwahaniaethu mwyaf erchyll.

"Mae Diwrnod Windrush yn gyfle i ddathlu'r cyfraniad mae'r genhedlaeth hon wedi ei wneud a’r cyfraniad mae’n parhau i'w wneud i gymdeithas yma yng Nghymru a ledled y DU. Mae hefyd yn gyfle i gymryd amser i fyfyrio ar ein sefyllfa heddiw.

"Yn ddiau, mae pethau wedi gwella rhywfaint, ond fel yr ydym wedi gweld yn rhy aml yn ystod y misoedd diwethaf, mae hiliaeth, gwahaniaethu a chasineb yn parhau mewn cymdeithas o hyd.

"Mae fy neges heddiw'n glir. Ni fydd troseddau casineb yn cael eu goddef yng Ngwent.

"Un o'm prif flaenoriaethau ar gyfer Gwent yw creu cymuned fwy cydlynol. Er y bydd dathliadau eleni ychydig yn wahanol, mae'n ardderchog gweld cymaint o bobl o wahanol gefndiroedd yn dod at ei gilydd ym mha bynnag ffordd y gallant i nodi'r digwyddiad arbennig hwn yn ddiogel.”