Diwrnod Stephen Lawrence

21ain Ebrill 2023

Heddiw, gwnaethom nodi Diwrnod Stephen Lawrence, digwyddiad blynyddol sy'n coffáu marwolaeth giaidd Stephen ar 22 Ebrill 1993.

Mae hwn yn ddiwrnod pwysig i blismona. Roedd y ffordd y cafodd achos Stephen ei drin gan yr heddlu ar y pryd yn ddychrynllyd a datgelodd yr adroddiad dilynol - Adroddiad Macpherson - rwydwaith o lygredd a arweiniodd at newidiadau mawr mewn plismona trwy'r DU gyfan.

Roedd marwolaeth Stephen yn gatalydd a ddatgelodd yr hiliaeth, rhywiaeth a homoffobia sefydliadol ehangach ledled ein gwasanaethau cyhoeddus. Rydym wedi dod yn bell ers hynny, ond yn anffodus mae gennym ni lawer mwy o waith i'w wneud.

Mae plismona'n destun sylw unwaith eto. Mae elfennau o ddiwylliant amhriodol yn y gweithle, agweddau ac ymddygiad annerbyniol yn bodoli o hyd. Nid yw Gwent yn eithriad yn hyn o beth ac mae gwaith i fynd i'r afael â'r problemau hyn yn cael blaenoriaeth, fel y dylai.

Mae anghyfiawnder yn ein cymdeithas o hyd ac mae dyletswydd ar wasanaethau cyhoeddus i ymroi i newid gwirioneddol a chynaliadwy.

Rhaid i ni ail adeiladu ymddiriedaeth ymysg ein cymunedau a'u sicrhau nhw y bydd unrhyw un sy'n ymwneud â'r heddlu'n cael ei drin yn gyfartal, yn deg a gyda pharch. Rhaid i ni ddangos yn glir na fydd casineb, ar unrhyw ffurf, yn cael ei oddef yma.

Er mwyn gwneud hyn, mae angen i bawb godi llais yn erbyn anoddefgarwch a chasineb. Rhaid i bawb sefyll yn gadarn. Rhaid i ni beidio â bod yn hunanfodlon.

Rydym wedi ymroi i greu system cyfiawnder troseddol gwrth-hiliol yng Nghymru, a gweithio'n agosach nac erioed gyda'n cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.

Rwyf yn hyderus ein bod, ar y cyd â'r Prif Gwnstabl Pam Kelly a'i thîm yn Heddlu Gwent, a'n partneriaid cyfiawnder troseddol ehangach, yn ysgogi newid mewn diwylliant sy'n rhoi lleisiau ein cymunedau wrth galon ein prosesau, ein polisïau a'n penderfyniadau.

Byddwn yn parhau i weithio i sicrhau bod pob un o'n trigolion, a'n cyflogeion, yn teimlo'n hyderus y bydd eu heddlu yn eu trin yn deg, a'u bod yn gallu byw eu bywydau yn rhydd rhag gwahaniaethu neu gasineb.

Rhaid i ni gofio ein bod yn well gyda'n gilydd, a thrwy ddysgu gwersi'r gorffennol byddwn yn creu dyfodol gwell.