Diwrnod Rhyngrwyd Mwy Diogel 2024

7fed Chwefror 2024

Yr wythnos yma gwnaethom ddathlu Diwrnod Rhyngrwyd Mwy Diogel. Aethom i Barth Dysgu Glynebwy Coleg Gwent, a chawsom gwmni swyddogion o dîm Seiberdrosedd Heddlu Gwent, Thales, Cyber First Cymru a Phrifysgol De Cymru. Roedd yn wych cael cefnogaeth dysgwyr o Undeb Myfyrwyr y campws.

Croesawodd myfyrwyr wybodaeth am y nifer o ffyrdd i gadw’n ddiogel ar-lein a’r gwahanol gyfleoedd sydd ar gael yn y diwydiant seiber. 

Gydol yr wythnos hefyd, gofynnwyd i ddysgwyr ystyried sut mae’r rhyngrwyd yn effeithio ar eu bywydau. Mae Llysgenhadon Dyfodol Digidol a Lles Coleg Gwent wedi creu cystadleuaeth i annog dysgwyr i ystyried sut mae’r rhyngrwyd wedi cael  effaith gadarnhaol. 

I gael rhagor o wybodaeth ac adnoddau i helpu i gadw’n ddiogel ar-lein, ewch i https://www.saferinternetday.org/