Diwrnod gweithredu cymunedol Crimestoppers

29ain Mehefin 2020

Cynhaliodd Crimestoppers ddiwrnod gweithredu cymunedol yr wythnos hon i dynnu sylw at y gwasanaeth hysbysu am droseddau'n ddienw mae'r elusen yn ei ddarparu.

Mae'r elusen yn cymryd gwybodaeth ddienw am bob mathau o droseddau, o droseddau stryd megis delio cyffuriau, lladrata neu fyrgleriaeth, i droseddau mwy cudd megis cam-fanteisio a cham-drin.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert: “Rwyf yn sylweddoli efallai bod rhai pobl yn teimlo'n amharod i hysbysu am broblem am eu bod yn ofni ôl-effeithiau, ond mae pob hysbysiad a wneir i Crimestoppers yn gwbl anhysbys.

"Mae angen i bob un ohonom chwarae ein rhan i fynd i'r afael â throsedd yn ein cymunedau, felly os ydych chi’n adnabod rhywun sy’n ymwneud â throsedd neu weithgarwch troseddol, neu’n amau rhywun, rhowch wybod i Crimestoppers."

Cysylltwch ag elusen Crimestoppers yn gwbl anhysbys ar 0800 555 111 neu drwy'r ffurflen anhysbys ar-lein ar crimestoppers-uk.org. I gael mwy o wybodaeth am waith ymgyrchu Crimestoppers ar draws Casnewydd a Gwent cliciwch yma.