Disgyblion yn trafod mannau diogel yn eu cymuned

19eg Mawrth 2024

Yr wythnos hon aeth fy nhîm i ysgol Gynradd Beaufort Hill yng Nglyn Ebwy. Cymerodd y disgyblion ran mewn gweithdy Man Diogel, gan rannu eu meddyliau am eu cymuned.

 

Roedd y disgyblion yn falch iawn o gwrdd â CSO Hodges o Heddlu Gwent. Gwrandawodd CSO Hodges ar eu meddyliau a'u teimladau, a rhoddodd sicrwydd iddynt a golwg ar rai o’r meysydd o bryder a godwyd.

 

Roedd yn galonogol gwybod bod pob disgybl yn deall mai 10 oes yw oedran cyfrifoldeb troseddol, a'u bod yn ymwybodol o effaith a chanlyniadau gwneud galwadau ffug a dechrau tanau bwriadol.

 

Nod y gweithdy yw addysgu plant a phobl ifanc a rhoi gwybodaeth i fy swyddfa i, Heddlu Gwent a sefydliadau partner am unrhyw faterion a allai fod yn effeithio ar y disgyblion.

 

Mae lleisiau plant a phobl ifanc yn bwysig i mi, ac mae'r gweithdy hwn yn un o lawer o ddulliau y mae fy swyddfa yn eu defnyddio i gasglu’r wybodaeth.