Digwyddiad Caffi'r Byd i Fynd i'r Afael a Throseddau Difrifol a Chyfundrefnol yn Cael ei Gynnal yng Nghasnewydd

20fed Chwefror 2019

Cymerodd dros 40 o drigolion o Ringland ac Alway ran mewn digwyddiad 'caffi cysylltu' i drafod troseddau difrifol a chyfundrefnol yn eu hardal.

Ymunodd Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent (Swyddfa’r Comisiynydd), Heddlu Gwent, Cyngor Dinas Casnewydd a Thai Dinas Casnewydd â thrigolion lleol yn y digwyddiad yn Ringland.

Yn ystod y digwyddiad, a gafodd ei ariannu gan Swyddfa'r Comisiynydd, daeth grŵp amrywiol o bobl at ei gilydd i rannu ystod o brofiadau a thrafod sut y gallant weithio fel cymuned i leihau effaith troseddau difrifol a chyfundrefnol ar draws Casnewydd.

Wrth sôn am ariannu'r digwyddiad, dywedodd Jeff Cuthbert, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, "Rwyf wrth fy modd i fod wedi ariannu'r digwyddiad arloesol a chynhwysol hwn yng Nghasnewydd".

“Mae'n rhoi'r dewrder a'r diogelwch i bobl na fyddent fel arfer yn cyfrannu at sgwrs gyhoeddus allu rhannu eu barn a chynnig datrysiadau lleoledig, perthnasol.

“Oherwydd y ffordd mae'r grwpiau troseddau cyfundrefnol hyn yn gweithio, mae'n rhaid i ni ddibynnu ar gudd-wybodaeth leol a chefnogaeth gan y gymuned er mwyn gallu chwalu ac amharu ar eu gweithrediadau.

“Rwyf am dawelu meddwl y cymunedau yng Nghasnewydd a dweud wrthynt y bydd fy swyddfa i, Heddlu Gwent a'n partneriaid yn parhau i weithio gyda chi i sicrhau bod gennych chi le mwy diogel i fyw.”

Mae'r 'caffi cysylltu' yn rhan o brosiect ehangach sy'n cael ei ariannu gan Swyddfa'r Comisiynydd ac sy'n cael ei gyflwyno ledled Casnewydd gan Mutual Gain, sefydliad sydd wedi ymroi i ddatblygu cymunedau gofalgar a chefnogol, sy'n teimlo bod ganddynt yr hawl i gymryd perchnogaeth wrth ddatrys problemau cymunedol.

Dywedodd Prif Arolygydd Paul Davies, sy'n arwain yr Uned Troseddau Difrifol a Chyfundrefnol yng Nghasnewydd "Mae'r digwyddiad hwn yn gyfle gwych i ni ymgysylltu â chymunedau lleol yng Nghasnewydd i ddeall a chanfod y problemau sy'n cael effaith ar eu bywydau bob dydd.

Gyda chymorth y cymunedau a'r partneriaid hyn, gallwn gyd-gysylltu dull sy'n seiliedig ar ddatrys problemau er mwyn mynd i'r afael â grwpiau troseddau cyfundrefnol.