DECHRAU CHWILIO AM BRIF GWNSTABL NEWYDD I WENT

29ain Ebrill 2019

Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent (y Comisiynydd), Jeff Cuthbert, wedi dechrau chwilio am Brif Gwnstabl newydd i arwain Heddlu Gwent.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arwain tîm o 2,135 o swyddogion a staff heddlu, ac yn goruchwylio'r gwaith o gyflawni Cynllun Heddlu a Throseddu'r Comisiynydd.

Bydd yn olynu Prif Gwnstabl Julian Williams sy'n rhoi'r gorau iddi ym mis Mehefin ar ôl gwasanaethu am 30 mlynedd, gan gynnwys dwy flynedd yn arwain Heddlu Gwent.

Dywedodd Jeff Cuthbert: “Fel Comisiynydd Heddlu a Throseddu fy nghyfrifoldeb i yw penodi Prif Gwnstabl newydd i arwain Heddlu Gwent.

“Mae Gwent yn ardal sy'n cynnwys dinas fawr a threfi prysur yn ogystal â chefn gwlad a chymunedau llai yn y cymoedd ac mae pob un ohonynt yn cynnig eu heriau unigryw eu hunain i blismona.

“Fel pob llu heddlu, mae Heddlu Gwent hefyd yn wynebu heriau ariannol yn y dyfodol.

“Mae'r gwasanaeth wedi gorfod arbed dros £50 miliwn ers 2008 ac, ar yr un pryd, mae'r cynnydd yn y galw mewn meysydd megis cam-fanteisio’n rhywiol ar blant, caethwasiaeth fodern a seiberdroseddau yn rhoi pwysau digyffelyb ar ein swyddogion a staff.

“Gan hynny, rwy'n chwilio am arweinydd cadarn a thalentog, sydd wedi ymroi i ddarparu plismona sy'n canolbwyntio ar y gymuned ac a fydd yn sicrhau bod Gwent yn parhau i fod yn un o'r llefydd mwyaf diogel i fyw a gweithio ynddo, ac i ymweld ag ef, yn y DU.”

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 22 Mai 2019.

Bydd angen i ymgeiswyr fodloni'r meini prawf cymhwyso gofynnol fel yr amlinellir yng Nghanllaw'r Coleg Plismona ar gyfer Penodi Prif Swyddogion.

Mae manylion pellach a gwybodaeth am sut i ymgeisio yma www.gwent.pcc.police.uk/cy/amdanom-ni/swyddi-gwag/