Dathlu Pride Cymru

2il Medi 2022

Roeddwn yn falch iawn i fod yn bresennol yn Pride Cymru yng Nghaerdydd y penwythnos diwethaf i ddathlu ein cymunedau LHDTQ+.

Er ein bod wedi dod yn bell, mae angen gwneud mwy i herio'r rhagfarn a'r gwahaniaethu mae pobl LHDTQ+ yn ei wynebu.

Trwy fy Nghynllun Heddlu a Throsedd rwyf wedi ymroi i sicrhau bod egwyddorion cydraddoldeb ac amrywiaeth wrth galon fy swyddfa i a Heddlu Gwent. Rwyf hefyd yn ariannu cymorth arbenigol i drigolion LHDTQ+ sy'n dioddef trosedd.

Mae Umbrella Cymru, ein partner sy'n rhan o ganolfan dioddefwyr Connect Gwent, yn rhoi cefnogaeth emosiynol ac ymarferol, cyngor a gwybodaeth i bobl LHDTQ+ o bob oedran sydd wedi profi trosedd neu ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Os ydych chi wedi profi trosedd neu ymddygiad gwrthgymdeithasol ac angen siarad â rhywun, cysylltwch â Connect Gwent ar 0300 123 2133. Fel arall, gallwch gysylltu'n uniongyrchol ag Umbrella Cymru ar 0300 neu ewch i www.umbrellacymru.co.uk am fanylion cyswllt.