Dathlu llwyddiant pobl ifanc yng Nghasnewydd

5ed Mehefin 2023

Yr wythnos yma gwnaethom ddathlu llwyddiant pobl ifanc ysbrydoledig o gymunedau amrywiol yng Nghasnewydd.

Cafodd y bobl ifanc eu cydnabod am eu gwaith caled a'u hymroddiad yn ymgysylltu â phrosiectau lleol a helpu pobl eraill.

Roeddwn yn falch i fod yn rhan o ddathliad arbennig yn Ysgol Gynradd Maendy lle derbyniodd y bobl ifanc wobrau am eu gwaith da.

Trefnwyd y digwyddiad gan bartneriaeth o brosiectau, rhai ohonynt yn derbyn cyllid gennym ni, gan gynnwys Tŷ Cymunedol, the Sanctuary, Ysgol Gynradd Maendy, gwasanaeth ieuenctid Cyngor Dinas Casnewydd, Casnewydd Fyw, Cymdeithas Cymuned Yemenïaidd Casnewydd, a Dyfodol Cadarnhaol.

Mae'r sefydliadau hyn yn cydweithio yn rhan o'r bartneriaeth Levelling the Field, ac mae pob un ohonynt yn darparu ymyrraeth bwrpasol i blant a phobl ifanc sydd mewn perygl o ddechrau ymwneud â throsedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Trwy gynnig cyfle i blant a phobl ifanc gymryd rhan mewn gweithgareddau cadarnhaol, rhoi man diogel iddyn nhw fynd yn eu cymunedau gyda phobl maen nhw'n teimlo'n ddiogel yn siarad â nhw, a chael cefnogaeth gan fentoriaid sy'n oedolion, rydym yn helpu i atgyfnerthu ymddygiad da a gosod y seiliau a fydd yn eu galluogi nhw i gael dyfodol hapus ac iach.