Dathlu Calan Gaeaf yn ddiogel

28ain Hydref 2020

Mae Heddlu Gwent wedi creu pecyn gweithgareddau i blant sy’n llawn o adnoddau i'w hargraffu, i annog gwrachod a dewiniaid bach i fynd i ysbryd Calan Gaeaf yn eu cartrefi.

Mae’r pecyn gweithgareddau’n cynnwys dyluniau y gellir eu lliwio a thempledi ar gyfer cerfio pwmpenni.

Lawrlwythwch nhw o wefan Heddlu Gwent a dangoswch eich campweithiau cythreulig ar y cyfryngau cymdeithasol, gan dagio @GwentPCC a @HeddluGwent.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Jeff Cuthbert: “Mae Calan Gaeaf ar ddigwydd unwaith eto ac, er na ddylai pobl fynd allan i chwilio am losin neu lanast eleni oherwydd y cyfyngiadau Covid presennol, nid yw hynny'n golygu na allwch chi gael hwyl!

“Mae Heddlu Gwent wedi creu adnoddau ardderchog i’ch helpu chi i gael hwyl yn eich cartrefi a gallwch rannu eich pwmpenni ar y cyfryngau cymdeithasol.

“Cofiwch, nid pawb sy’n gweld yr hwyl dros gyfnod Calan Gaeaf. Ni fydd difrod troseddol ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael eu goddef, a bydd Heddlu Gwent allan ledled Gwent yn sicrhau bod pobl yn ddiogel ar y noson.

“Felly cofiwch, cadwch yn ddiogel, dilynwch y canllawiau Covid diweddaraf a mwynhewch noson Calan Gaeaf.”