Datganiad Ymgyrch Uplift

12fed Medi 2019

Mae ymgyrch recriwtio cenedlaethol wedi cael ei lansio i recriwtio 20,000 o swyddogion heddlu newydd yn y DU dros y tair blynedd nesaf.

Nod yr ymgyrch yw annog pobl i ymuno â'r heddlu a bod yn "llu i bawb" gyda'r gobaith o recriwtio 6,000 o swyddogion ychwanegol yn ystod y cam cyntaf, gyda'r llywodraeth yn rhoi £750 miliwn i dalu am yr ymgyrch recriwtio ar gyfer 2020-21.

Bydd y 14,000 sy'n weddill yn cael eu recriwtio yn y ddwy flynedd olynol a byddant yn ychwanegol at swyddogion sy'n cael eu hurio i lenwi swyddi gwag presennol.

Mae'r buddsoddiad cenedlaethol hwn yn digwydd ar yr un pryd ag ymgyrch recriwtio Heddlu Gwent ei hun, sydd ar waith ar hyn o bryd.

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert: "Rwy'n croesawu defnyddio cyllid canolog gan y llywodraeth i dalu am y swyddi plismona hyn, yn hytrach na bod y gost yn gorfod cael ei hysgwyddo gan dalwyr treth y cyngor.

"Fodd bynnag, mae angen i ni sicrhau bod buddsoddiad cyson a chynaliadwy'n dod gan lywodraeth y DU; nid yn unig ar gyfer plismona, ond ar gyfer y system cyfiawnder troseddol ehangach hefyd.

“Ni fydd recriwtio mwy o swyddogion heddlu ar ben ei hun yn ddigon i fynd i'r afael â'r heriau rydym yn eu hwynebu heddiw. Mae angen rhoi dull cyfannol ar waith, gyda buddsoddiad ym mhob agwedd ar y system o weithgareddau dargyfeirio, ystafelloedd rheoli lluoedd a staff mewn dalfeydd, i ymrwymo mwy o adnoddau i Wasanaeth Erlyn y Goron, llysoedd, gwasanaethau i ddioddefwyr ac i reoli troseddwyr.

"Ers dechrau rhaglen gyni Llywodraeth y DU yn 2010/11, mae ein cyllideb yng Ngwent wedi lleihau 40% mewn termau real. Er gwaethaf hyn, rwy'n falch o ddweud ein bod wedi recriwtio dros 400 o swyddogion heddlu ers 2016, y mae ymron i 150 ohonynt yn swyddi plismona newydd.

"Mae plismona'n yrfa gyffrous, gyda chyfleoedd ardderchog a chyfle i wneud gwahaniaeth i'r cymunedau sy'n cael eu gwasanaethu. Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithio i'r heddlu i fynd i wefan Heddlu Gwent a chanfod mwy am y gwaith hollbwysig mae'r heddlu'n ei wneud i amddiffyn a thawelu meddwl y cyhoedd yng Ngwent bob dydd."

Mae Heddlu Gwent yn recriwtio ar hyn o bryd. I gael manylion, ewch i wefan Heddlu Gwent.

Am ragor o wybodaeth am yr ymgyrch cenedlaethol, ewch i www.joiningthepolice.co.uk