Datganiad: Ymchwiliad The Sunday Times

23ain Tachwedd 2022

Mae’r honiad am negeseuon ffiaidd a ganfuwyd ar ffôn symudol cyn swyddog heddlu, fel sydd wedi cael ei adrodd yn The Sunday Times, yn ddifrifol iawn.

Mae’r negeseuon yn mynd yn ôl nifer o flynyddoedd ond ni ddaethant i sylw Heddlu Gwent nes iddynt gael eu hadrodd yn y cyfryngau. Credir bod nifer o’r swyddogion a oedd yn ymwneud â nhw wedi ymddeol, neu nad ydynt yn gweithio i Heddlu Gwent mwyach.

Mae’r achos yn destun ymchwiliad annibynnol yn awr ac, os canfyddir bod swyddogion heddlu sy’n gwasanaethu yn awr wedi tramgwyddo, byddaf yn disgwyl i gamau gweithredu cadarn gael eu cymryd. Fel Comisiynydd, nid oes gen i unrhyw swyddogaeth ffurfiol yn yr ymchwiliad hwn.

Mae Prif Gwnstabl Pam Kelly a minnau wedi rhagbaratoi Aelodau Senedd San Steffan ac Aelodau Senedd Cymru ac rydym yn parhau i weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru ynglŷn â’r achos hwn. Fy mlaenoriaeth yn awr yw cefnogi’r Prif Gwnstabl i sicrhau bod yr honiadau hyn yn cael eu hymchwilio a chymryd y camau gweithredu priodol.

Rwyf yn credu’n gryf nad yw’r achos hwn yn cynrychioli mwyafrif y swyddogion heddlu yma yng Ngwent sydd wedi ymroi i wasanaethu ac amddiffyn ein cymunedau. Rwyf yn gwybod bod swyddogion a staff gweithgar yn ddig ac yn rhwystredig bod eu henw da wedi cael ei amau yn seiliedig ar weithredoedd ychydig o bobl.

Hoffwn sicrhau ein cymunedau na fyddwn yn cuddio ein pennau yn y tywod, ac y byddwn yn gweithio’n barhaus i herio ymddygiad annerbyniol lle bynnag y gwelwn ef.