Darllen Rhwng y Llinellau gydag ymgyrch newydd Heddlu Gwent

24ain Ebrill 2020

Mae Heddlu Gwent wedi lansio ymgyrch newydd sy'n annog pobl i #DarllenRhwngYLlinellau ac i helpu'r rheini a allai fod yn dioddef cam-drin domestig.

Mae Jeff Cuthbert, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, yn cefnogi'r ymgyrch ac yn canmol pwyslais Heddlu Gwent ar fynd i'r afael â phob math o gam-drin.

Anogodd bobl i beidio â dioddef yn dawel, ond i roi gwybod a hysbysu am drais yn y cartref: "Gwyddom fod trais yn y cartref eisoes yn cael ei dan-hysbysu’n sylweddol yn ein cymunedau ac mae’r cyfyngiadau symud cenedlaethol yn golygu, yn anffodus, ein bod yn disgwyl i achosion o gam-drin gynyddu.

"Mae'r Prif Gwnstabl Pam Kelly a minnau wedi bod yn glir iawn bod Heddlu Gwent, a'n hasiantaethau partner, yma i helpu.

"Drwy weithio gyda'n gilydd gallwn roi'r cymorth a'r gefnogaeth arbenigol sydd eu hangen arnoch i roi terfyn ar y cam-drin a sicrhau nad yw'n digwydd eto.

"Rwy'n llwyr gefnogi ymgyrchoedd fel hyn i annog pobl i ddarllen rhwng y llinellau a helpu pobl sy'n dioddef cam-drin domestig.

Os ydych chi’n dioddef cam-drin domestig, neu'n pryderu am rywun yr ydych yn ei adnabod, gallwch ffonio llinell gymorth Byw Heb Ofn 24/7 am gyngor a chymorth;

Ffôn: 0808 80 10 800

Neges Destun: 078600 77 333

Gallwch hefyd ffonio Heddlu Gwent ar 101 neu anfon neges uniongyrchol ar Facebook neu Twitter. Dylech bob amser ffonio 999 mewn argyfwng.

I gael rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch #DarllenRhwngYLlinellau, ewch i www.gwent.police.uk/cy/newyddion/stori/news/darllenwch-rhwng-y-llinellau/?fbclid=IwAR2lID3Bbx5ZQrFznmwNLWtWU69jKiowqYZMgKlfmfMCvdWLAgBcyUzUTvY