Dangos y Drws i Drosedd

13eg Mai 2021

Yr wythnos hon cefais gyfarfod briffio rhithiol gyda thîm newydd Dangos y Drws i Drosedd Heddlu Gwent.

Mae'r ymgyrch newydd yn canolbwyntio ar fynd i'r afael â throseddau meddiangar fel byrgleriaeth a dwyn, ac mae wedi cael ei ddefnyddio gan luoedd heddlu yn Lloegr i leihau ad-droseddu ac erledigaeth. Rwyf yn falch iawn ein bod ar flaen y gad yng Nghymru trwy ei gyflwyno yma yng Ngwent.

Mae'r tîm yn darparu cyngor i gymunedau ar atal trosedd a diogelu eiddo er mwyn eu helpu i osgoi bod yn darged i drosedd, ac mae'n barod i ymateb yn gyflym pan fydd byrgleriaeth yn digwydd i helpu i leihau'r perygl i eiddo cyfagos.

Mae atal trosedd yn un o'r blaenoriaethau yn fy Nghynllun Heddlu a Throsedd a gan fod yr heddlu'n gweithio mewn partneriaeth gyda thrigolion a busnesau i fynd i'r afael â mannau sy'n agored i fyrgleriaeth a mannau lle mae byrgleriaeth a dwyn yn broblem, rwy'n sicr y byddwn yn creu Gwent fwy diogel i bawb.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Heddlu Gwent