Cynllun ymwelwyr annibynnol â dalfeydd

18fed Tachwedd 2022

Mae Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent yn recriwtio ymwelwyr annibynnol â dalfeydd.

Gwirfoddolwyr yw ymwelwyr annibynnol â dalfeydd sy’n ymweld â dalfeydd yn ddirybudd er mwyn gwirio sut mae carcharorion yn cael eu trin, o dan ba amodau, ac i sicrhau bod eu hawliau’n cael eu parchu.

Dywed Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent: “Mae ymwelwyr annibynnol â dalfeydd yn gwneud gwaith hollbwysig, yn sicrhau bod Heddlu Gwent yn cynnal y safonau uchaf a bod carcharorion yn cael eu trin yn briodol.

“Maen nhw’n chwarae rhan bwysig yn helpu fy swyddfa i sicrhau bod pob agwedd ar waith Heddlu Gwent yn destun craffu trylwyr.”

Am ragor o fanylion ac i lawrlwytho ffurflen gais, ewch i wefan Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd.