Cymhorthfa wledig y Comisiynydd Heddlu a Throsedd

11eg Hydref 2019

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert, wedi bod allan yn cwrdd â ffermwyr a gweithwyr amaethyddol yn y farchnad da byw wythnosol yn Sir Fynwy.

Digwyddodd yr ymweliad yn ystod Wythnos Troseddau Gwledig, digwyddiad cenedlaethol sy'n ceisio tynnu mwy o sylw at broblemau gwledig.

Cafodd y Comisiynydd gwmni Tîm Troseddau Gwledig Heddlu Gwent, a sefydlwyd ym mis Ionawr 2019 fel adnodd penodol i fynd i'r afael â throseddau gwledig, treftadaeth a bywyd gwyllt.

Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert: "Roedd hwn yn gyfle gwych i gwrdd â ffermwyr a phobl eraill sy'n gweithio yn ein cymunedau gwledig, a gwrando ar eu pryderon.

“Efallai nad oes gan droseddau gwledig yr un proffil â mathau eraill o droseddau, ond maen nhw'n hollbwysig i'r gymuned sy'n cael ei heffeithio. Er bod llawer mwy o waith i'w wneud, mae'n galonogol gwybod bod Heddlu Gwent yn cymryd camau rhagweithiol i amddiffyn ein cymunedau gwledig."