Cyllid ar gael i ddioddefwyr cam-drin domestig a thrais rhywiol

22ain Ebrill 2022

Gall sefydliadau yng Ngwent sy’n darparu gwasanaethau i ddioddefwyr cam-drin domestig a thrais rhywiol ymgeisio am gyfran o £147 miliwn gan y Weinyddiaeth Cyfiawnder.

Gellir defnyddio’r arian i roi cymorth i ddioddefwyr a’u teuluoedd sydd wedi profi camdriniaeth ar unrhyw adeg yn eu bywydau, ac i greu swyddi newydd ar gyfer cynghorwyr trais rhywiol a cham-drin domestig.

Meddai Jeff Cuthbert, Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent: “Mae gwasanaethau sy’n rhoi cymorth i ddioddefwyr cam-drin domestig a thrais rhywiol dan bwysau mawr yn barod ac yn wynebu ansicrwydd ariannol, felly mae’r cyllid ychwanegol hwn yn dderbyniol iawn.

“Bydd yn ein helpu ni i ddarparu gwasanaethau hanfodol i ddioddefwyr yng Ngwent, ac i roi cymorth i rai o’r bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau.”

Rhaid i’r rhai sydd am ymgeisio gwblhau asesiad o angen a’i ddychwelyd i rosanna.davies@gwent.police.uk erbyn 5pm dydd Mawrth 3 Mai.


Darllenwch ganllaw’r Weinyddiaeth Cyfiawnder cyn cwblhau’r asesiad o angen.