Cyflwyno tagiau sobrwydd yng Nghymru i fynd i'r afael â throseddau a gyflawnir dan ddylanwad alcohol

27ain Hydref 2020

Gallai troseddwyr yng Nghymru sydd wedi troseddu dan ddylanwad alcohol gael eu gwahardd rhag yfed a'u gorfodi i wisgo 'tagiau sobrwydd' i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r gwaharddiad.

Mae'r tagiau yn mesur chwys troseddwyr bob 30 munud ac yn hysbysu'r Gwasanaeth Prawf os yw alcohol y cael ei yfed.

Mae'r dull hwn wedi cael ei roi ar brawf yn llwyddiannus yn Llundain gyda'r nod o leihau aildroseddu dan ddylanwad alcohol.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert: "Mae unrhyw beth sy'n helpu i leihau troseddau cysylltiedig ag alcohol i'w groesawu ac mae'r teclyn newydd hwn yn sicr o fod yn ddefnyddiol mewn rhai achosion.

"Fodd bynnag, mae'n llawer pwysicach ein bod yn mynd i'r afael â'r problemau isorweddol ac achosion craidd troseddau cysylltiedig ag alcohol.


“Ers 2014 mae fy swyddfa wedi buddsoddi dros £800,000 y flwyddyn yng Ngwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Gwent i helpu i ddarparu cymorth i droseddwyr sy'n troseddu oherwydd camddefnydd cyffuriau ac alcohol. Mae'r buddsoddiad hwn yn dangos pa mor ddifrifol rydym yn ystyried y broblem a pha mor ymroddedig yr ydym i fod yn rhan o'r ateb.

"Mae gweithwyr cymorth yn y dalfeydd yng ngorsafoedd heddlu Ystrad Mynach a Chasnewydd, ac yn Llys Ynadon Casnewydd hefyd. Mae hyn yn ein galluogi ni i gynnig y cymorth angenrheidiol i droseddwyr mor gynnar â phosibl.

"Trwy roi sylw i broblemau alcohol, a gweithio gyda gweithwyr proffesiynol yn y maes iechyd meddwl mewn llawer o achosion i ymchwilio i'w hachosion isorweddol, rydym yn cynnig llwybr bywyd gwahanol i bobl ac yn atal trosedd mewn cymunedau."