Cyfarfod gyda Gweinidog Plismona'r DU

9fed Hydref 2020

Ddiwedd yr wythnos ddiwethaf cymerais ran mewn cyfarfod gyda Gweinidog Plismona'r DU, Kit Malthouse.

Mae hwn yn gyfle rheolaidd i gomisiynwyr yr heddlu a throseddu gael sesiwn briffio gan Lywodraeth y DU ac rwy'n croesawu eu hymroddiad i ymgysylltu ar lefel lleol.

Dywedodd y Gweinidog wrthym fod y Llywodraeth yn dal yn bwriadu cynnal etholiadau comisiynwyr yr heddlu a throseddu fis Mai nesaf. Yng Nghymru, byddai hyn yn digwydd ar yr un pryd ag etholiadau Llywodraeth Cymru.

Gwnaethom drafod cynllun y Llywodraeth i gyflwyno swyddogion Covid hefyd, yn dilyn cyhoeddiad a wnaed ym mis Medi. Nid yw'n glir ar hyn o bryd sut yn union bydd hyn yn gweithio yng Nghymru ac rydym yn edrych ymlaen at gael rhagor o fanylion yn fuan.