Cyfarfod â gweinidog plismona’r DU

22ain Mai 2020

Mae’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu Jeff Cuthbert wedi ymuno â chydweithwyr ledled y DU mewn cynhadledd dros y ffôn â gweinidog plismona'r DU, Kit Malthouse, a'r gweinidog dros lysoedd, Chris Philip.

Dywedodd Jeff Cuthbert: "Rydym ni wedi pwysleisio wrth y gweinidogion bod y diffyg gwasanaethau arferol yn y llysoedd a'r ôl-groniad cynyddol o achosion ar hyn o bryd yn golygu bod dioddefwyr troseddau, a dioddefwyr cam-drin domestig a thrais yn arbennig, yn cael eu gwasanaethu'n wael.

"Dywedodd y gweinidogion wrthym ni eu bod nhw ar hyn o bryd yn ystyried sefydlu llysoedd mewn adeiladau eraill a fydd yn caniatáu i ofynion cadw pellter cymdeithasol gael eu bodloni a chaniatáu i achosion barhau.

"Gobeithio y gall y broses hon gael ei chyflymu ac y gallwn ni ddychwelyd at rywbeth sy'n mynd ar drywydd ailddechrau gwasanaethau arferol y llys cyn bo hir.”