Cyfarchiad ar gyfer Digwyddiad Lansio Mis Hanes Pobl Dduon yng Ngwent

24ain Hydref 2018

Roeddwn wrth fy modd bod Race Council Cymru wedi gofyn i mi gynnal ei ddigwyddiad lansio Mis Hanes Pobl Dduon yng Ngwent yr wythnos hon.

Roedd yn anrhydedd cydnabod cyfraniadau unigolion o'n cymunedau lleol sydd wedi dod yn 'Eiconau Cymru Ddu' a'u dathlu'n gyhoeddus.

Eleni rydym yn cofio dechrau Prydain fodern amlddiwylliannol a 70 mlynedd ers cyrhaeddiad arloeswyr cyntaf y Windrush – anturwyr ifanc yn gobeithio am ddyfodol economaidd disglair iddyn nhw eu hunain a'u teuluoedd.

Mae eu profiadau a’u cyflawniadau'n adlewyrchu a symboleiddio nodweddion diwylliannol cyffredin fel cadernid, gwaith caled, ymdeimlad o gymuned ac asbri. Bu eu hagwedd arloesol a chadarnhaol yn gymorth i ail adeiladu'r wlad a chreu'r Gymru rydym yn ei gweld heddiw.

Mae Mis Hanes Pobl Dduon yn rhoi cyfle i ni gofio a dathlu nid yn unig pobl bwysig o'r gorffennol, ond hefyd y rhai sy'n cyfrannu at ein cymdeithas heddiw.

Mae cyhoeddiad y rhestr 'Brilliant, Black and Welsh' gan Wales Online yn gam allweddol wrth gydnabod effaith gadarnhaol ein Cymry duon, gwych.

Mae Gwent wedi hen arfer â chymunedau amlddiwylliannol ac wedi elwa ar hanes ac amrywiaeth pawb sydd wedi ymgartrefu yma dros y canrifoedd.

Yn yr oes fwy modern, denodd dociau Casnewydd a'r diwydiannau gofal iechyd, glo a dur bobl o bedwar ban byd.

Ymgartrefodd llawer ohonynt yng Nghasnewydd gan fwrw gwreiddiau yno gyda'u teuluoedd a chyflwyno amrywiaeth eang o draddodiadau a diwylliant sy'n dal i gyfrannu at yr amrywiaeth cymdeithasol ac ethnig a welwn heddiw.

Mae hyn wedi cael effaith gadarnhaol ar oddefgarwch a chydlyniant cymunedol, ac wedi helpu i greu cyfleoedd gwell i genedlaethau diweddarach.

Serch hynny, mae hiliaeth a gwahaniaethu'n dal i ddigwydd, felly rhaid i ni ddal ati i hyrwyddo a diogelu ein hegwyddorion o oddefgarwch, cynhwysiant a chydraddoldeb.

Mae gweithio gyda sefydliadau fel Race Council Cymru yn allweddol er mwyn deall yr heriau mae llawer o'n trigolion o gefndir du a lleiafrifoedd ethnig yn eu hwynebu yn well, ac i ymgysylltu â nhw i helpu i fynd i’r afael â’u profiadau negyddol.

Mae Mis Hanes Pobl Dduon yn bwysig am ei fod yn ein galluogi ni i herio camdybiaethau a gwybodaeth anghywir sy'n hybu ac ymdaenu gelyniaeth a gwahaniaethu tuag at y cymunedau hyn. Mae'n cydnabod hunaniaeth Gymreig gyffredin a gwerthoedd sy'n cael eu rhannu gan ein galluogi ni i ddysgu gwersi'r gorffennol a chreu gwell dyfodol i'r rhai sy'n dilyn.

Fel Comisiynydd Heddlu a Throseddu, rhan o'm swydd yw dwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif am y ffordd mae gwasanaethau heddlu'n cael eu darparu yng Ngwent. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod pawb sy'n dod i gysylltiad â'r Heddlu'n cael eu trin yn gyfartal a gyda thegwch a pharch.

Yma yng Ngwent, mae ein heriau plismona'n amrywio'n ddramatig ar draws ardal ddaearyddol gymharol fechan, ac mae ein cymunedau'n newid yn gyflym.

Mae'r blaenoriaethau a amlinellir yng Nghynllun Cydraddoldeb Strategol ar y Cyd fy swyddfa i a Heddlu Gwent yn bwysicach nac erioed, gan eu bod yn cyfrannu at gydlyniant cymunedol gwell. Fodd bynnag, mae hefyd yn ymwneud â sut mae fy swyddfa i a Heddlu Gwent yn recriwtio, hyfforddi, rheoli a datblygu'r bobl sy'n gweithio i ni.

Mae hefyd yn bwysig bod ein gweithlu'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu yn weladwy. Mae ymgysylltu â'r gymuned yn rhan hollbwysig o’r gwaith hwn.

Mae Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb hefyd yn digwydd ym mis Hydref.

Mae'n rhyfedd ein bod yn dathlu cyflawniadau a chyfraniadau ein dinasyddion sydd o gefndiroedd du a lleiafrifoedd ethnig ledled Cymru ac ar yr un pryd rydym yn siarad am yr effaith erchyll mae troseddau casineb yn ei gael ar yr union gymunedau hynny.

Mae trosedd casineb yn drosedd erchyll, gymhleth sy'n gwbl annerbyniol yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae plismona'n chwarae rhan bwysig yn dod â throseddau casineb i ben a chefnogi pobl sy'n profi digwyddiadau casineb.

Mae hysbysu am droseddau casineb yn hanfodol os ydym ni am fynd i'r afael â'r broblem yn llwyddiannus. Gall pobl hysbysu am ddigwyddiadau mewn nifer o ffyrdd, nid hysbysu'r heddlu yn unig ar 101 neu 999. Gellir hysbysu sefydliadau eraill hefyd, grwpiau cymunedol neu Cymorth i Ddioddefwyr a True Vision Cymru trwy gyfrwng eu systemau hysbysu trydydd parti a, gyda'n gilydd, gallwn annog unrhyw un sy'n profi digwyddiad sy'n gysylltiedig â chasineb i hysbysu amdano.

Fodd bynnag, nid yw rhai o'r problemau hyn yn ymwneud â phlismona.

Er mwyn mynd i'r afael â'r rhain, hoffwn annog mwy o bobl i gyfrannu'n rhanbarthol at ddigwyddiadau a gweithgareddau Hanes Pobl Dduon, nid ym mis Hydref yn unig ond trwy gydol y flwyddyn, i godi proffil hanes pobl dduon ar draws Cymru gan ei fod yn rhan gynhenid o hanes cyffredin Cymru.

Hanes yw'r hyn rydym ni'n ei wneud heddiw i lunio'r dyfodol ac mae ein pobl ifanc yn ganolog i hyn.

Roeddwn yn hynod o falch i noddi Gwobrau Ieuenctid Hanes Pobl Dduon Race Council Cymru yn ddiweddar. Mae'r bobl ifanc hyn wedi dangos ymroddiad i faterion cymdeithasol, dinesig a chymunedol.

A phwy a ŵyr, un diwrnod efallai y byddwn yn dathlu eu presenoldeb yn rhengoedd ein 'Eiconau Cymru Ddu'.

 

Jeff Cuthbert

Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent