Cydnabod gwirfoddolwyr ifanc yn Nhorfaen

23ain Chwefror 2024

Mae mwy na 170 o wirfoddolwyr ifanc gyda Gwasanaeth Chwarae Torfaen wedi cael eu cydnabod mewn seremoni arbennig yr wythnos yma.

Gyda'i gilydd mae'r bobl ifanc wedi darparu rhyw 28,000 awr o gyfleoedd chwarae yn y gymuned i blant a phobl ifanc mewn clybiau ar ôl ysgol a chynlluniau chwarae dros y flwyddyn ddiwethaf.

Mae cynllun chwarae Torfaen yn wasanaeth ardderchog i'r gymuned, yn darparu cyfleoedd ystyrlon a chreadigol i gadw plant yn brysur ac i'w difyrru nhw ar ôl ysgol ac yn ystod y gwyliau. Mae hefyd yn rhoi cyfle i'r gwirfoddolwyr wneud cyfraniad yn eu cymuned wrth ddatblygu eu hyder a dysgu sgiliau newydd a fydd yn eu helpu nhw i gael gwaith yn y dyfodol.

Yn y gorffennol rydym wedi gweithio gyda'r gwasanaeth i ddarparu ein gweithdai 'cadw'n ddiogel' sy'n galluogi plant i leisio eu barn ar y pethau sy’n achosi pryder iddyn nhw yn y gymuned.

Os ydych chi'n adnabod rhywun sy'n 16+ ac a allai fod â diddordeb mewn gwirfoddoli gyda Gwasanaeth Chwarae Torfaen yn 2024, mae mwy o wybodaeth ar wefan cyngor Torfaen.