Creu system cyfiawnder troseddol decach

10fed Hydref 2022


Yr wythnos hon rydym yn nodi Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb, digwyddiad blynyddol sy’n cael ei gynnal o fewn cyd-destun ehangach Mis Hanes Pobl Dduon.

Ni fydd hiliaeth a mathau eraill o droseddau casineb yn cael eu goddef yma yng Ngwent. Mae’r rhain yn droseddau erchyll, cymhleth a gall adael dioddefwyr yn ymdrin â niwed emosiynol a chorfforol am flynyddoedd lawer.

Mae anghyfiawnder yn parhau yn ein cymdeithas ac mae dyletswydd ar wasanaethau cyhoeddus i ymrwymo i newid gwirioneddol a chynaliadwy. Hoffwn i roi sicrwydd i’n cymunedau y bydd unrhyw un sy’n ymdrin â’r heddlu yng Ngwent yn cael eu trin yn gyfartal, yn deg ac â pharch.

Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae fy nhîm wedi gweithio gyda’n partneriaid ym mwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru i ddatblygu a gweithredu cynllun gweithredu gwrth-hiliaeth pwrpasol a thryloyw.

Datblygwyd y cynllun dros 18 mis, gan weithio’n agos gyda mwy na 600 o aelodau cymunedau Duon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ledled Cymru. Mae’n amlinellu’r camau y byddwn yn eu cymryd dros y tair blynedd nesaf fel rhan o’n hymrwymiad i gyflawni system cyfiawnder troseddol wrth-hiliol.

Bydd panel goruchwylio a chynghori annibynnol yn ein dwyn i gyfrif am yr ymrwymiadau hyn. Mae hwn yn cynnwys 12 o aelodau, o bob rhan o Gymru, â chefndiroedd proffesiynol a phrofiad bywyd amrywiol, a fydd yn craffu ar ein cyflawniad o’r cynllun.

Mae ymddiriedaeth yn y system cyfiawnder troseddol wedi’i niweidio ac mae dyletswydd arnom yn y gwasanaethau cyhoeddus i ailddatblygu’r ymddiriedaeth hon. Mae cynnwys cymunedau a’r rhai sydd â phrofiad gwirioneddol o ymdrin ag anghyfiawnder wedi bod yn hanfodol wrth ddatblygu’r cynllun hwn. Bydd eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth yn ein llywio wrth i ni weithio’n rhagweithiol gyda’n partneriaid tuag at ein nod cyffredin o Gymru wrth-hiliol.

Rydym yn cydnabod yr heriau o’n blaenau, ond rwy’n ffyddiog, trwy weithio gyda’n gilydd, y gallwn gyflawni ein nodau a chreu system cyfiawnder troseddol decach, a chymdeithas decach i bawb.

Darllenwch y Cynllun Gwrth-hiliaeth Cyfiawnder Troseddol i Gymru