Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn nodi Diwrnod Coffa Cenedlaethol yr Heddlu

25ain Medi 2020

Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, wedi talu teyrnged i’r holl swyddogion heddlu sydd wedi’u lladd neu wedi colli eu bywyd ar ddyletswydd, cyn Diwrnod Coffa Cenedlaethol yr Heddlu ddydd Sul 27 Medi.

Sefydlwyd Diwrnod Coffa Cenedlaethol yr Heddlu ar ôl i Jon Odell, swyddog Heddlu Caint, gael ei ladd yn 2000.

Mae'r digwyddiad hefyd yn gyfle i gydnabod ymroddiad a dewrder yr holl swyddogion heddlu ledled y DU.

Dywedodd Jeff Cuthbert: "Mae Diwrnod Coffa Cenedlaethol yr Heddlu yn gyfle i ni gofio'r swyddogion hynny sydd wedi colli eu bywyd ar ddyletswydd, ond hefyd i ddiolch i’r swyddogion heddlu sy’n gwasanaethu am y gwaith caled, yr ymroddiad a'r dewrder maen nhw’n eu dangos bob dydd wrth iddyn nhw ddiogelu a gwasanaethu ein cymunedau.

"Mae'r risgiau maen nhw’n eu hwynebu yn real iawn. Ychydig fisoedd yn ôl cafodd un o swyddogion Heddlu Gwent ei drywanu yn ystod ffrae, ac mae cam-drin corfforol a geiriol yn gyffredin.

"Mae’r swyddogion heddlu yng Ngwent wedi’u profi fel erioed o'r blaen yn ystod y misoedd diwethaf. Bydd yr heriau hyn yn parhau wrth i gyfyngiadau lleol gael eu cyflwyno ond rwy'n sicr y bydd ein swyddogion yn parhau i ymateb i'r heriau hyn yn rhagorol.

“Felly hoffwn i ddiolch i’r holl swyddogion heddlu, yn y gorffennol a'r presennol, am eu gwasanaeth ac am bopeth maen nhw’n ei wneud i'n cadw'n ddiogel."