Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu'n cefnogi galwadau am fwy o hawliau i ddioddefwyr
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, wedi cefnogi galwadau gan y Comisiynydd Dioddefwyr am fwy o hawliau cyfreithiol i ddioddefwyr trosedd.
Mae'r Comisiynydd Dioddefwyr, y Fonesig Vera Baird, wedi cyhoeddi adroddiad newydd yn amlinellu'r hyn y mae eisiau ei weld yng Nghyfraith Dioddefwyr newydd Llywodraeth y DU. Mae Llywodraeth y DU wedi dweud y bydd yn ymgynghori ar ddeddfwriaeth dioddefwyr yn 2021.
Mae ei phapur yn amlinellu 34 o argymhellion, gan gynnwys galwad ar asiantaethau cyfiawnder troseddol i fod yn fwy atebol i ddioddefwyr a bod dioddefwyr yn cael hawliau cyfranogwyr er mwyn iddynt osgoi cael eu trin fel gwylwyr gan y system cyfiawnder troseddol.
Gellir darllen yr adroddiad ar wefan y Comisiynydd Dioddefwyr.
Dywedodd Jeff Cuthbert: “Mae cefnogi dioddefwyr yn un o'r prif flaenoriaethau yn fy Nghynllun Heddlu a Throseddu ac rwy'n llwyr gytuno bod angen deddfwriaeth newydd i roi mwy o hawliau i ddioddefwyr pan fyddant yn ymwneud â’r system cyfiawnder troseddol.
"Rwyf yn arbennig o falch i weld argymhellion y dylid darparu cymorth cyfreithiol am ddim i ddioddefwyr treisio er mwyn atal ceisiadau sy’n gofyn am ormod o wybodaeth bersonol, gan ein bod yn gwybod y gall hyn rwystro pobl rhag riportio'r troseddau hyn.
"Rwyf yn cytuno ei bod yn bwysig bod dioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael eu trin felly hefyd a'u bod yn gallu cael mynediad at wasanaethau cymorth i ddioddefwyr hollbwysig. Ar hyn o bryd nid oes digon o gymorth ar gael i ddioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol ac mae'n rhaid i hyn wella.
"Rwyf yn falch ein bod ni ar flaen y gad yma yng Ngwent o ran y cymorth rydym yn ei ddarparu i ddioddefwyr. Heddlu Gwent oedd y llu cyntaf yng Nghymru i ddod ag ystod eang o wasanaethau cymorth i ddioddefwyr at ei gilydd dan un to yn ein canolfan dioddefwyr Connect Gwent ac rydym wedi gweithio gyda Heddlu Gwent i sefydlu Bwrdd Dioddefwyr hefyd i graffu ar y ffordd mae gwasanaethau'n cael eu darparu ar gyfer dioddefwyr a thystion trosedd. Rydym wedi ymroi i welliant parhaus ac rydym yn bwriadu buddsoddi mwy yn y gwasanaethau hyn y flwyddyn nesaf."
Os ydych chi wedi dioddef trosedd, neu wedi bod yn dyst i drosedd, gallwch gael cymorth gan Connect Gwent. Nid oes rhaid i chi fod wedi riportio'r drosedd hon i'r heddlu i gael mynediad at y gwasanaethau hyn. Ffoniwch 0300 123 2133 neu e-bostiwch connectgwent@gwent.pnn.police.uk