Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu'n canmol adroddiad y Comisiynydd Dioddefwyr

16eg Gorffennaf 2020

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, wedi canmol adroddiad gan y Comisiynydd Dioddefwyr, Y Fonesig Vera Baird, sy'n galw am drawsnewid gwasanaethau i ddioddefwyr.

Mae'r adroddiad yn galw ar Lywodraeth y DU i fanteisio ar y cyfle unigryw sydd wedi codi o ganlyniad i newidiadau diweddar i ddeddfwriaeth, a ffyrdd newydd o weithio yn sgil Covid-19 er mwyn trawsnewid gwasanaethau i ddioddefwyr.

Dywedodd Jeff Cuthbert: "Rwyf yn croesawu'r adroddiad ardderchog gan y Comisiynydd Dioddefwyr, Y Fonesig Vera Baird, a gyhoeddwyd yr wythnos hon.

"Mae'r Fonesig Vera wedi dangos ei hymroddiad i ddioddefwyr ac mae hi'n tynnu sylw at y newidiadau y mae angen i ni eu gwneud i’r system cyfiawnder troseddol er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn y gwasanaeth gorau posibl.

"Rwyf yn cymryd ei phryderon am y canlyniadau i ddioddefwyr treisio o ddifrif ac mae fy swyddfa’n gweithio gyda Heddlu Gwent ar hyn o bryd i wella gwasanaethau ar gyfer goroeswyr treisio."

Rydym yn gofyn i oroeswyr gwblhau arolwg ar-lein dienw a fydd yn helpu i wella ymateb asiantaethau cyfiawnder troseddol i bobl sydd wedi dioddef treisio. Bydd yn cael ei ddefnyddio i lywio adolygiad o sut mae Heddlu Gwent yn ymdrin ag achosion o dreisio sy'n cael eu riportio hefyd.

Os hoffech chi gael cymorth i gwblhau'r arolwg hwn, cysylltwch â Threfnydd Ymgysylltu â Goroeswyr Heddlu Gwent, Elizabeth Lowther.

Sylwer: Os ydych chi wedi cael eich treisio, neu os ydych yn adnabod rhywun sydd wedi cael eu treisio, ond nid yw'r heddlu wedi cael eu hysbysu, dylech ffonio 999 neu 101. Neu, os hoffech chi gyngor a chymorth, cysylltwch â Chymorth i Fenywod Cyfannol ar 01495 742052, neu Llwybrau Newydd ar 01685 379310.