Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn talu teyrnged i’w Mawrhydi Y Frenhines
8fed Medi 2022
Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert, wedi talu teyrnged i'w Mawrhydi Y Frenhines.
Dywedodd: “Gwasanaethodd Ei Mawrhydi’r wlad hon gydag ymroddiad am dros 70 mlynedd a bydd pobl Prydain yn gweld colled fawr ar ei hol.
“Roeddem ni’n ei hadnabod, yn bennaf, fel un a oedd yn gwasanaethu’r bobl. Ond roedd hi hefyd yn fam, mam-gu a hen-famgu, a ffrind. Heddiw, estynnaf fy nghydymdeimlad i deulu ac anwyliaid Ei Mawrhydi ar yr adeg drist iawn hon.
“Byddaf yn anfon fy nghydymdeimlad i’r Osgordd Frenhinol a bydd baneri ledled Ystâd Heddlu Gwent yn hedfan ar hanner mast i ddangos dyledus barch.”